Byw yng nghysgod y cewri

Ewen Fields, cartref Hyde FC
Gary Pritchard

Gary Pritchard

Dydd Mercher, 24 Apr 2013, 12:56

Tra bod aelodau’r wasg yn mynnu dweud mai dyma’r tymor gorau erioed i bêl-droed Cymreig, byddai’n esgeleus ohonnai i beidio sôn am dranc Llanelli.

Mae’n wir fod Abertawe wedi synnu’r gwybodusion yn Uwch Gynghrair Lloegr ac wedi cyflawni gwyrthiau wrth gipio’u tlws cyntaf ers codi Cwpan Cymru ym 1991.

A do, mae Caerdydd wedi sicrhau eu bod nhw’n ymuno â’r Swans yn yr Uwch Gynghrair yn dilyn tymor penigamp yn y Bencampwriaeth.

‘Dwi’n sicr ddim yn gwarafun llwyddiant anhygoel y ddau glwb, ond mae’n ystyriaeth ddifrifol fod Llanelli, un o glybiau mwyaf llwyddiannus Cymru, wedi eu dirwyn i ben yn yr Uchel Lys ddydd Llun gyda dyledion sy’n gyfatebol i gyflog wythnosol chwaraewr yn yr Uwch Gynghrair.

Peidiwch a phoeni, dwi ddim am ‘sgwennu blog sy’n lladd ar y cyflogau mae chwaraewyr yr Uwch Gynghrair yn eu hennill, wedi’r cwbwl petai chi’n cael cynnig swm anferthol i wneud yr hyn ’da chi’n ei garu, dwi’n amau’n gryf y fydde chi’n gwrthod!

Ond gyda dau glwb o dde Cymru yn yr hyn mae’r wasg Seisnig yn hoffi ei alw’n ‘the best league in the world’ tymor nesaf, mae rhywun yn dechrau poeni am glybiau Cymreig eraill.

Dywedodd cyn chwaraewr Leeds United a Chymru, rheolwr presennol Caerfyrddin, Mark Aizlewood, ei fod yn poeni am y clybiau ar hyd coridor yr M4.

Dim ond tri clwb i’r de o Aberystwyth fydd yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor nesaf; Caerfyrddin, Port Talbot ac un ai Lido Afan neu Hwlffordd.

Mae Cwmbran, Y Barri, Yr Athrofa, Inter Caerdydd, Glyn Ebwy a Thon Pentre wedi hen ddiflannu a does dim awch i’w weld ar glybiau’r de i esgyn i Uwch Gynghrair Cymru.

Yn amlwg mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru yn mynd i’w chael yn anodd tu hwnt i gystadlu gyda’u cyfoedion yng nghynghrair Lloegr ar bron i pob lefel, felly cwestiwn mwy perthnnasol, efallai, yw beth all y ddau gawr Cymreig ei wneud i helpu clybiau domestig Cymru?

Ychydig wythnosau yn ôl, bues i a’r mab yn gwylio Wrecsam yn Ewen Fields, cartref Hyde FC, clwb fu’n wynebu achos yn yr Uchel Lys yn 2009 … swnio’n gyfarwydd?

Gyda dyledion o £120,000, dechreuodd swyddogion a chefnogwyr y clwb godi arian i geisio achub eu clwb.

Fel rhan o’r ymgyrch, cafwyd caniatâd i gynnal casgliad tu allan i Stadiwm Dinas Manceinion ar ddiwrnod gêm eu cymdogion cyfoethog, Manchester City.

Blwyddyn yn ddiweddarach roedd cyfarwyddwyr Hyde wedi taro bargen oedd yn golygu byddai ail dîm Manchester City yn chwarae ar Ewen Fields.

Gwariodd City £250,000 yn trin y stadiwm ac yn datblygu’r maes i safon cystal â chaeau Uwch Gynghrair Lloegr ac mae’r rent blynyddol mae’r cewri yn ei dalu yn cadw Hyde yn fyw.

Byddai rhai yn dadlau bod Hyde wedi gwerthu eu henaid. Mae’r gair United wedi diflannu o enw’r clwb, mae lliwiau’r kit wedi newid o goch a gwyn i las a gwyn ac mae llond lle o fathodynau Manchester City wedi eu gosod ar hyd a lled Ewen Fields.

Mae’r ffin yn un denau iawn, ond heb arian City byddai Hyde wedi dilyn llwybr cyfarwydd sydd eisoes wedi ei droedio gan Scarborough, Rushden a Diamaonds, Castell Nedd a Llanelli.

Yn ogystal â’r tîm cyntaf mae gan glybiau Uwch Gynghrair Lloegr ail dîm a thimau academi dan 21 a dan 18.

Fyddai Abertawe a Chaerdydd yn gallu edrych tuag at glybiau Uwch Gynghrair Cymru gyda’r un haelioni â ddangoswyd gan Manchester City tuag at Hyde?

Yn hytrach na chwarae ambell i gêm ar Barc y Scarlets, oni ddylai Abertawe fod yn edrych i helpu eu cefndryd pêl-droed drwy chwarae gemau’r ail dîm i lawr ar Barc Stebonheath?

Fyddai Caerdydd yn gallu chwarae gemau’r ail dîm neu’r timau academi ar Barc Jenner gan roi help llaw i’r Barri yr un pryd?

Mae ail dîm Manchester City yn denu torfeydd o bedwar ffigwr yn rheolaidd i Hyde gyda’r cwt paneidiau yn gwneud busnes da.

Ac mae’r cant neu ddau o gefnogwyr sydd wedi dod yn ôl i wylio Hyde yn Uwch Gynghrair y Blue Square wedi cadw’r clwb i fynd hefyd.

Yn hytrach na gweld Abertawe a Chaerdydd fel mynydd o broblem i glybiau llai de Cymru, oni fyddai’n well gofyn sut bo modd manteisio ar eu llwyddiant?