Canlyniad campus yn y cymal cyntaf

laudrup_230812pic
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 1 Aug 2013, 21:19

22 mlynedd yn ddiweddarach ac mae’r Swans yn ôl yn Ewrop, ac am ffordd i ddychwelyd!

Ar noson drymaidd lawr y Liberty roedd Abertawe yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd am y tro cyntaf ers 1991, a bydd Michael Laudrup yn gallu cysgu’n braf heno ar ôl gweld ei dîm yn chwalu Malmö o bedair gôl i ddim yng nghymal cyntaf Trydedd Rownd Ragbrofol Cynghrair Europa.

Prif sgoriwr y tymor, Miguel Michu sgoriodd y gyntaf wedi i’r amddiffynnwr Filip Helander lithro i adael gormod o le i’r Sbaenwr i basio’r bêl heibio’r golwr yn hamddenol.

Roedd Wilfried Bony yn un o bump oedd yn chwarae eu gêm gyntaf i’r Swans, a’r dyn o Draeth Ifori rwydodd yr ail a’r drydedd i brofi ei werth o £12 miliwn o bunnoedd.

A’r bedwaredd oedd yr orau wrth i Alejandro Pozuelo reoli ar ei frest cyn ergydio’n isel i gefn y rhwyd o yml y cwrt cosbi.

Bydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Sweden ar nos Iau, yr 8fed o Awst ac mi fydd yr uchafbwyntiau’r i’w gweld ar S4C yn hwyrach y noson honno am 11pm.