Caton yn ffyddiog gall ei dîm gamu ymlaen

Colin Caton yn dathlu buddugoliaeth Y Bala (llun: Gareth Hughes)
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 3 Gor 2013, 08:41

Mae rheolwr Y Bala, Colin Caton, yn hyderus gall ei dîm gwblhau’r dasg yng Nghynghrair Europa ar ôl trechu Levadia Tallinn yng nghymal cyntaf rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair Europa .

Ian Sheridan rwydodd unig gôl y gêm ar y Belle Vue, Y Rhyl nos Fawrth er mwyn sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i’r Bala, ac mae Caton yn credu bod mwy o hanes i’w greu.

“Mae’r fantais gennym ni, mae hynny’n sicr,” meddai wrth Sgorio. “Da ni ’di rhwystro nhw rhag cael gôl oddi cartref, sy’n bwysig iawn.

“Ac mae pawb wedi gweithio mor galed – ‘dyw Kenny Lunt prin yn gallu cerdded yn yr ystafell newid!

“Mae’r ysbryd ymysg y garfan yn arbennig. Yr unig gwyn sydd gen i yw bod ni wedi gwastraffu cyfleon i sgorio mwy o goliau yn yr ail hanner,” ychwanegodd.

Ac er fod Levadia ar frig y Meistriliiga ar ôl 16 gêm o’u tymor, roedd Caton yn edrych ymlaen yn arw at yr ail gymal ym mhrifddinas Estonia ar 11 Gorffennaf.

“Mae nhw’n dîm cryf ac wedi pasio’r bêl o gwmpas heno ac wedi cael y bêl allan i’r asgell, ond ‘dyw nhw heb lwyddo i chwarae trwy’r canol a’n brifo ni.

“Bydd rhaid iddyn nhw sgorio os ydyn nhw am gamu ymlaen, ac er fod nhw ’di mynd amdani yn yr ail hanner ’da ni wedi ymdopi.

“Felly os gallwn ni ymarfer yn galed rhwng nawr ac wythnos nesaf ‘dwi’n ffyddiog y gallwn sicrhau’r fuddugoliaeth wrth wrthymosod yn chiwm – fel ’da ni ’di wneud heno ‘ma.”

Bydd yr enillwyr yn wynebu CS Pandurii Târgu Jiu o Romania yn yr ail rownd rhagbrofol ar 18 a 25 Gorffennaf.