Hola ac adiós yn La Liga

European Football – UEFA Champions League – Semi-Final 2nd Leg – Real Madrid CF v FC Bayern Munchen
Gary Pritchard

Gary Pritchard

Dydd Llun, 3 Meh 2013, 11:54

Gyda’r tymor wedi dod i ben ym mhrif adran Sbaen, mae’n amser i ffarwelio a hen ffrindiau a chroesawu ambell i un arall.

Mae cyfrinach waetha’r byd pêl-droed wedi ei datgelu wythnos yma wrth i Jose Mourinho gyhoeddi ei fod yn gadael Real Madrid er mwyn dychwelyd i Stamford Bridge a Chelsea.

Ond nid yr “un arbennig” ydi’r unig reolwr i adael ei swydd yn y Primera.

Bydd Manuel Pellegrini yn gadael Málaga er mwyn ymuno â Mourinho yn Uwch Gynghrair Lloegr wrth iddo gymryd yr awenau ym Manchester City, ac er bod Philippe Montanier wedi arwain Real Sociedad i Gynghrair y Pencampwyr, mae’r Ffrancwr wedi gadael y Txuri-urdin er mwyn symud i reoli Stade Rennais yn Ligue 1.

Mae’r ddau glwb wedi eu cysylltu gyda rheolwr Newell’s Old Boys a chyn reolwr Paragwai, Gerardo Martino, sydd wedi arwain Newell’s i rownd gyn derfynol y Copa Libertadores, ond mae amheuaeth os byddai Martino eisiau gadael Ariannin cyn diwedd eu tymor ym mis Gorffennaf, yn enwedig os yw’n llwyddo i arwain y tîm i rownd derfynol y Libertadores.

Yn ôl yn y Primera, mae Miroslav Djukic wedi dweud adiós wrth Valladolid gan awgrymu ei fod yn “chwilio am her newydd” ac mae lle i gredu mai yn y Mestalla fydd yr her newydd ‘ma wedi i Ernesto Valverde adael Valencia ar ôl methu a sicrhau lle Los Che yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf.

Ac i ychwanegu at y chwyrligwgan rheolwyr, mae dyfodol Marcelo Bielsa yn Athletic yn edrych yn fwy fwy bregus nawr fod Valverde’n ddi-waith gan i gyn chwaraewr a chyn reolwr y San Mamés cael ei grybwyll fel olynydd teilwng i Bielsa, oedd yn gyfrifol am dymor siomedig a chythryblus draw yn Bilbao.

O ran y sibrydion eraill, mae’n bosib byddwn yn dwedu ¡hola! wrth Juup Heynckes, enillodd Gynghrair y Pencampwyr, y Bundesliga a’r DFB-Pokal gyda Bayern Munich tymor yma.

Mae Heynckes, sy’n cael ei olynu gan gyn reolwr Barcelona, Pep Guardiola yn Bayern, eisoes wedi treulio tymor yn sedd boeth y Bernabéu; llwyddodd i ennill Cynghrair y Pencampwyr gyda’r Blancos yn ôl ym 1998 ond ar ôl gorffen yn bedwerydd yn y gynghrair roedd ei P45 yn y post cyn diwedd y tymor.

Wrth gwrs, bydd tri clwb yn farwelio a’r Primera wrth i Zaragoza, Mallorca a Depor ddweud adiós a disgyn i’r Segunda, ond dim ond Elche, sy’n dychwelyd i’r Primera am y tro cyntaf ers 24 mlynedd sy’n sicr o’r ¡hola! hyd yma.

Bydd Villareal yn herio Almería ar benwythnos ola’r tymor gyda dyrchafiad ar gael i pa bynnag dîm sy’n ennill tra bo’r llall yn gorfod bodloni ar gemau ail gyfle ynghyd â Girona ac unrhyw ddau o Alcorcón, Las Palmas a Pontferradina.