Newid byd yn y brif adran

Cefongwyr Caerdydd yn dathlu (llun Conrad Pheasant)
Gary Pritchard

Gary Pritchard

Dydd Mercher, 17 Apr 2013, 14:22

Llwyddodd Caerdydd i gael gêm ddi-sgôr yn erbyn Charlton nos Fawrth a chasglu’r pwynt oedd ei angen i sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Wedi tair blynedd o dor calon yn y gemau ail gyfle, llwyddodd Malky Mackay i arwain yr Adar Gleision i’r adran uchaf o bêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers dros hanner canrif.

Yn rhyfedd ddigon, roedd yn 53 mlynedd i’r diwrnod ers y tro diwethaf i Gaerdydd sicrhau dyrchafiad i’r adran uchaf a hynny wrth wrth drechu Aston Villa 1-0 er mwyn camu ymlaen i’r hen Adran Gyntaf ochr yn ochr â’r Villains.

Yn anffodus, byr iawn oedd eu teyrnasiad yn yr uchelfannau; wedi dau dymor yn unig roedd bois y brifddinas yn ôl yn yr Ail Adran.

Ond ar ôl blynyddoedd o ymweld â Spotland, Boundary Park a Deepdale, mae’r Adar Gleision wedi camu yn ôl. Tymor nesaf, Ryan Giggs ac nid Gigg Lane fydd hi i’r ffyddloniaid!

Ac mae’n deg dweud fod pethau wedi newid cryn dipyn ers y tro diwethaf i Gaerdydd ei hobnobio hi efo’r timau mawr.

Yn nhymor 1961/62, Alf Ramsey oedd rheolwr Ipswich wrth iddyn nhw ennill y bencampwriaeth am yr unig dro yn eu hanes, gyda Burnley, pencampwyr 1960, yn ail.

Roedd timau ‘mawr’ heddiw yn ei chael yn ddigon anodd gosod eu stamp. Timau digon cyffredin tua canol y tabl oedd Manchester United, Arsenal a Manchester City tra bo Chelsea wedi gorffen y tymor ar waelod y domen – yr unig dîm â record waeth na Chaerdydd.

Doedd Lerpwl ddim hyd yn oed yn yr adran uchaf. Roedd eu rheolwr, Bill Shankly, wedi gweld ei dîm yn gorffen yn drydydd am ddau dymor yn olynol, cyn sicrhau dyrchafiad ym 1962 a chyfnewid llefydd gyda Chaerdydd.

Osgoi cwympo allan o’r Ail Adran oedd camp Abertawe, ond doedd dim cystal lwc i Gasnewydd orffennodd ar waelod y Drydedd Adran, tra bo chwaraewr-reolwr Wrecsam, Ken Barnes, yn arwain ei dîm i’r cyfeiriad arall gan sicrhau dyrchafiad o’r Bedwaredd Adran.

Wrth gwrs, y gwahaniaeth mwyaf i Gaerdydd yn 2013/14 o’i gymharu â 1961/62 fydd yr holl arian a’r holl sylw sydd i’w gael i dîm yn un o gynghreiriau mwyaf poblogaidd y byd.

Yn ôl ym 1962, doedd Match of the Day ddim hyd yn oed yn gnewyllun syniad; ni ddarlledwyd y rhaglen gyntaf tan 1964, ond tymor nesaf, wrth i Gaerdydd ddod y 46in clwb i ymddangos yn Uwch Gynghgrair Lloegr, bydd eu gemau yn cael eu darlledu i gartrefi dros 600 miliwn o bobl mewn 202 o wledydd led led y byd.

A thra bo’r cefnogwyr yn mwynhau eu cyfnod yn yr haul … a’r darbi Cymreig cyntaf yn yr adran uchaf … bydd Malky Mackay yn gobeithio sicrhau na fydd arhosiad yr Adar Gleision ar y lefel uchaf mor fyr ac anffodus ag un Barnsley, Blackpool, Burnley a Swindon.

Pob lwc i’r Adar Gleision!