Oriel yr Anfarwolion: Andy Mulliner

Andy Mulliner
Sgorio

Sgorio

Dydd Sadwrn, 27 Apr 2013, 20:29

Andy Mulliner, y gôl-geidwad mwyaf profiadol yn hanes Uwch Gynghrair Cymru yw’r nesaf i gael ei urddo i Oriel yr Anfarwolion.

Gyda Llansantffraid y dechreuodd Mulliner ei yrfa’n y gynghrair a chwaraeodd dros 200 o gemau i’r clwb rhwng 1993 a 1999.

Ar Barc yr Arfau yn 1996 daeth ei awr enwocaf i Lansantffraid, gan arbed o’r smotyn yn erbyn y Barri i gipio Cwpan Cymru.

Yn y flwyddyn 2000, enillodd y Gwpan am yr eildro a hynny yng nghrys Bangor.

Chwaraeodd wedyn i Aberystwyth, Cei Connah, y Drenewydd, Caersws a’r Trallwng ac yn 2006, Mulliner oedd dim ond y trydydd chwaraewr i gyrraedd 400 o gemau’n y gynghrair.

Rhoddodd y menyg o’r neilltu ac ymddeol yn nwy fil a naw ond dychwelodd i’r gynghrair ddwy flynedd yn ddiweddarach ag yntau dros eu ddeugain i helpu Airbus, sy’n golygu bod Mulliner wedi chwarae dros gant a hanner o gemau’n fwy nac unrhyw golwr arall yn y gynghrair.