Oriel yr Anfarwolion: Dave Taylor

oriel-dave-taylor
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 14 May 2013, 05:45

Dave Taylor, lwyddodd i osod Cynghrair Cymru ar y map pêl-droed Ewropeaidd, ydi’r nesaf i gael ei urddo i Oriel yr Anfarwolion.

Dechreuodd Taylor ei yrfa yng Nghynghrair Cymru gyda Chonwy, ond fe ddaeth i’r amlwg ar ôl symud i ymuno â Phorthmadog.

Tra ar Y Traeth llwyddod Taylor i ddilyn ôl traed chwaraewyr fel Eusebio, Gerd Muller a Marco van Basten fel sgoriwr goliau mwyaf toreithiog holl gynghreiriau Ewrop.

Sicrhaodd ei le yn y llyfrau hanes fel yr ail Gymro erioed, ar ôl Ian Rush, i gipio gwobr Esgid Aur cylchgrawn L’Equipe fel prif sgoriwr Ewrop ar ôl iddo rwydo 43 yn nhymor 1993/94.

Ar ôl gadael Port, chwaraeodd dros nifer o glybiau yn yr Uwch Gynghgrair ac er iddo rwydo sawl gôl arbennig, tymor euraidd 93/94 sy’n sicrhau ei le ymysg yr anfarwolion.