Oriel yr Anfarwolion: Eifion Williams

oriel-eifion
Sgorio

Sgorio

Dydd Sadwrn, 13 Apr 2013, 14:31

Eifion Williams, un o arch sgorwyr y gynghrair yw’r nesaf i gael ei anfarwoli’n Oriel Uwch Gynghrair Cymru.

Dechreuodd ei yrfa’n y gynghrair gyda Chaernarfon, lle sgoriodd 64 o goliau mewn 75 o gemau i’r Caneris mewn dau dymor cofiadwy.

Ar ôl dod o fewn pwynt i danio Caernarfon i le yn Ewrop yn 1997, fe symudodd i’r Barri gan greu record sy’n dal i sefyll am y ffi mwyaf am chwaraewr rhwng dau glwb o’r gynghrair.

Enillwyd y Bencampwriaeth yn 1998 heb golli gêm wrth i Eifion gipio’r Esgid Aur a sgorio 40 o goliau.

Y tymor canlynol, enillodd Esgid Aur a Phencampwriaeth arall, gan roi cyfanswm o 68 o goliau mewn 60 o gemau i’r Barri.

Chwaraeodd wedyn i Torquay, Hartlepool a Wrecsam yng nghynghrair Lloegr ac er y sgorwyr sydd wedi dod ar ei ôl, does gan neb gystal gyfartaledd sgorio ag Eifion Williams yn Uwch Gynghrair Cymru – gôl bob gêm am gant tri deg o gemau.