Oriel yr Anfarwolion: Gary Barnett

oriel-gary-barnett
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 8 Apr 2013, 22:35

Chwaraewr-reolwr llwyddiannus y Barri, Gary Barnett, yw’r nesaf i gael ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion.

Er ei fod ‘mond yn bump troedfedd a chwech modfedd o daldra, daeth y chwaraewr canol cae i’r Barri yn 1995 yn dilyn môr o brofiad yng nghynghrair Lloegr gyda Rhydychen, Fulham, Huddersfield a Leyton Orient.

Roedd Barnett yn rhan allweddol o dîm y Barri pan enillwyd y Bencampwriaeth am y tro cyntaf yn 1995/96 ac ar ôl iddo gael ei benodi’n chwaraewr-reolwr yn 1996, fe wnaeth y llwyddiant barhau.

Enillodd dair Pencampwriaeth arall gyda’r Barri – pedair yn olynol i gyd – a phump cwpan, yn ogystal â chwarae mewn sawl gêm gofiadwy yn Ewrop.

Chwaraeodd dros 130 o gemau i’r Barri gan sgorio sawl gôl bwysig a bydd cefnowgyr pêl-droed Cymru yn siwr o gofio cyfnod Barnett yn y Barri fel cyfnod aur y clwb.