Oriel yr Anfarwolion: Ken McKenna

oriel-mckenna
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 23 Jan 2013, 14:21

Ken McKenna un o chwaraewyr a rheolwyr amlycaf y gynghrair yw’r nesaf i gael ei anrhydeddu i Oriel yr Anfarwolion.

Dechreuodd McKenna ei yrfa Gymreig gyda Chonwy, lle sgoriodd 38 gôl mewn 35 ymddangosiad yn ystod tymor 1994/95 – record sgorio sydd yn parhau hyd heddiw yng Nghonwy.

Ymunodd â Bangor ym 1997/98 a llwyddodd i sgorio yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn erbyn Cei Connah wrth i’r Dinasyddion godi’r gwpan am y tro cyntaf ers 23 o flynyddoedd.

Ar ôl symud i Lansantffraid fel chwaraewr y tymor canlynol, roedd yn aelod allweddol o dîm TNS gipiodd y bencampwriaeth yn 2000 a chymrodd yr awennau fel rheolwr y clwb yn 2001.

Fel rheolwr llwyddodd i arwain TNS i dair pencampwriaeth yn olynol yn 2004/05, 2005/06 a 2006/07 yn ogystal â chodi Cwpan Cymru yn 2005 ac arwain y clwb i Ewrop ar saith achlysur.

Gadawodd McKenna ei swydd gyda’r Seintiau yn 2008 ac wedi cyfnodau â Cammell Laird ac Altrincham, mae o bellach yn is reolwr yn Morecambe.