Oriel yr Anfarwolion: Nigel Adkins

oriel-nigel-adkins
Sgorio

Sgorio

Dydd Sul, 7 Apr 2013, 15:54

Cyn chwaraewr reolwr Bangor, Nigel Adkins, yw’r nesaf i gael ei urddo i Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Symudodd Adkins i Ffordd Farrar o Wigan Athletic fel chwaraewr ar ddechrau tymor 1993/94, ond wedi i Paul Rowlands adael Bangor er mwyn cymryd yr awenau gydag Altrincham, penodwyd Adkins yn chwaraewr reolwr.

Gwnaeth ei farc yn syth wrth arwain Bangor i’r bencampwriaeth yn ail dymor Cynghrair Cymru â buddugoliaeth dros Borthmadog yng ngêm olaf y tymor.

Y tymor canlynol llwyddodd i gryfhau’r garfan gan arwyddo Marc Lloyd-Williams o Borthmadog i chwarae ochr yn ochr â Frank Mottram yn y llinell flaen, yn ogystal â chyn chwaraewr Everton, Kevin Langley.

Llwyddodd y Dinasyddion i llwyr reoli’r tymor gan sgorio 96 o goliau yn y gynghrair a gorffen naw pwynt yn glir o Lido Afan yn yr ail safle.

Cipiodd Adkins gwobr rheolwr y flwyddyn ym 1994 a 1995 ond gadawodd Ffordd Farrar ym mis Chwefror 1996 wedi cyfres o ganlyniadau siomedig.

Ym mis Awst 2012 daeth y rheolwr cyntaf i reoli yn Uwch Gynghrair Cymru ac Uwch Gynghrair Lloegr pan arweiniodd Southampton yn erbyn Manchester City.