Oriel yr Anfarwolion: Rhys Griffiths

oriel-rhys-griffiths

Rhys Griffiths, un o sgorwyr mwyaf toreithiog Uwch Gynghrair Cymru yw’r nesaf i gamu i Oriel yr Anfarwolion.

Dechreuodd Rhys ei yrfa gyda Chwbrân, Hwlffordd ac yna Caerfyrddin, ond gwnaeth ei farc tra’n chwarae i Bort Talbot, gan ennill esgid aur prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf yn 2006.

Roedd ei ddawn sgorio yn ddigon i’w weld yn ymuno â thîm uchelgeisiol Llanelli lle llwyddodd i barhau â’i record sgorio gan ddod yr ail chwaraewr erioed yn hanes Uwch Gynghrair Cymru i gyrraedd 200 o goliau.

Enillodd yr Esgid Aur am chwe thymor arall yn olynol a chasglodd gwobr Chwaraewr y Flwyddyn ddwywaith tra gyda’r Cochion.

Helpodd Llanelli i ennill Uwch Gynghrair Cymru am y tro cyntaf erioed a sgoiriodd ddwywaith wrth i Lanelli drechu Bangor a chodi Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes hefyd.

Gadawodd Uwch Gynghrair Cymru yn 2012 ar ôl arwyddo gyda Plymouth Argyle gyda record anhygoel o saith Esgid Aur a 237 o goliau mewn 312 o gemau.