Oriel yr Anfarwolion: Steve Evans

oriel-steve-evans
Sgorio

Sgorio

Dydd Sadwrn, 16 Mar 2013, 14:00

Mae Steve Evans yn un o enwau amlycaf yn ogystal â bod yn un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Uwch Gynghrair Cymru a fo di’r diweddaraf i gael ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion.

Yn amddiffynnwr cadarn a chryf, ymunodd â’r Seintiau Newydd yn 1999 ac roedd yn un o hoelion wyth y tîm enillod Uwch Gynghrair Cymru yn y flwyddyn 2000.

Llwyddodd i arwain Y Seintiau i’r dwbl yn 2004/05 wrth i’r tîm o Groesoswallt ennill Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru a choronodd dymor arbennig wrth gael ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn.

Ar ôl arwain y Seintiau i Bencampwriaeth arall yn 2006, cafodd ei arwyddo gan Wrecsam, lle enillodd 7 cap i dîm rhyngwladol Cymru cyn dychwelyd i Neuadd y Parc yn 2009.

Yn ogystal â bod yn un o gonglfeini amddiffyn y Seintiau, mae Steve yn gallu sgorio hefyd ac mae wedi rhwydo bron i 50 o goliau, gan gynnwys goliau yng Nghynghrair Europa.

Cipiodd Bencampwriaeth arall gyda’r Seintiau yn 2010, cyn casglu ei bedwaredd Pencampwriaeth a dwbl arall yn 2012.