Oriel yr Anfarwolion: Timmy Edwards

Timmy Edwards
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 25 Mar 2013, 22:50

Y cawr o amddiffynnwr Timmy Edwards yw’r nesaf i gael ei urddo i Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl cyfnodau gyda’r Rhyl a Bangor, Edwards oedd capten Total Network Solutions pan enillodd y clwb y Bencampwriaeth yn 2000 a cynrychiolodd y clwb yn Ewrop.

Penderfynodd beidio â troi’n chwaraewr proffesiynol gyda TNS felly dychwelodd i’r Rhyl yn 2002 gan fwynhau cyfnod euraidd gyda’r clwb.

Roedd Edwards yn gapten ysbrydoledig i’r Rhyl yn 2004 pan enillwyd y Trebl a cafodd ei ddewis fel Chwaraewr y Tymor drwy’r gynghrair gyfan. Chwaraeodd ym mhob gêm i’r Rhyl y tymor hwnnw a sgoriodd 10 o goliau er ei fod yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn!

Ar ôl chwarae dros ddau gant o gemau i’r Rhyl a gosod record ymddangosiadau’r clwb yn y gynghrair, chwaraeodd i Derwyddon Cefn am ddau dymor ac yn 2007, Edwards oedd dim ond y pedwerydd chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir o bedwar cant o gemau’n y gynghrair.

Gorffennodd y cawr addfwyn ei yrfa gyda’r Trallwng yn 2010, ar ôl un tymor ar bymtheg ffyddlon yn Uwch Gynghrair Cymru.