Bale yng ngharfan Cymru

International Football – Friendly – Wales v Finland
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 22 Mai 2014, 11:10

Mae seren Real Madrid, Gareth Bale, wedi ei gynnwys yng ngharfan Cymru ar gyfer y gêm gyfeillgar yn erbyn Yr Iseldiroedd ar 4 Mehefin.

Ond mae Aaron Ramsey wedi ei orffwys ar gyfer y daith i’r Amsterdam Arena tra fod golwr West Bromwich Albion, Boaz Myhill, wedi ymddeol o bêl-droed rhyngwladol.

Mae rheolwr Cymru, Chris Coleman, wedi cynnwys golwr tîm dan 21 Cymru, Connor Roberts, yn y garafn lawn am y tro cyntaf yn ogystal ag amddiffynnwr Hull City, James Chester a chwaraewr canol cae Manchester United, Tom Lawrence.

Ac mae amddiffynnwr Newcastle United, Paul Dummett, hefyd wedi ei gynnwys gan fod amddiffynwyr Abertawe, Ashley Williams a Ben Davies, yn colli’r daith oherwydd anafiadau.

Cafodd Chris Gunter ei ychwanegu i’r garfan fore Gwener ar ôl ymateb yn well na’r disgwyl i anaf. Roedd amddiffynnwr Reading wedi ei adael allan o’r garfan wreiddiol, ond ar ôl cysylltu gyda’r tîm rheoli brynhawn Iau, bydd yn tiethio i’r Iseldiroedd.

Carfan Cymru (v. Yr Iseldiroedd)
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Connor Roberts (Dim clwb), Owain Fôn Williams (Tranmere Rovers); James Chester (Hull City), Paul Dummett (Newcastle United), Danny Gabbidon (Crystal Palace), Declan John (Caerdydd), Lewin Nyatanga (Barnsley), Ashley Richards (Abertawe), Neil Taylor (Abertawe), Chris Gunter (Reading); Joe Allen (Lerpwl), Jack Collison (West Ham United), Emyr Huws (Manchester City), Owain Tudur Jones (Hibernian), Andy King (Caerlŷr), Tom Lawrence (Manchester United), Joe Ledley (Crystal Palace), David Vaughan (Sunderland), Jonathan Williams (Crystal Palace); Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (Charlton Athletic), Jermaine Easter (Millwall), Hal Robson-Kanu (Reading)