Cofio trychineb Hillsborough

dylan-jones-hillsborough-6
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 15 Ebr 2014, 10:29

Mae 15 Ebrill 1989 yn ddyddiad sydd wedi serio ar gof pob cefnogwr pêl-droed.

Ar y diwrnod du yma, teithiodd 96 o gefnogwyr i Sheffield er mwyn gwylio eu tîm yn chwarae pêl-droed … ond ni ddaeth yr un ohonnynt adref.

Cafodd y 96 eu gwasgu i farwolaeth ar deras Leppings Lane yn y drychineb gwaethaf yn hanes chwaraeon ar Ynysoedd Prydain.

Roedd cyflwynydd Radio Cymru, Dylan Jones, wedi mynd i Hillsborough er mwyn sylwebu ar rownd gynderfynol Cwpan FA Lloegr rhwng Lerpwl a Nottingham Forest ond cafodd ei hun yn adrodd a gohebu ar sefyllfa dra gwahanol.