Gôl y Tymor: 2013/14

Gôl y Tymor 2013/14
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 20 Mai 2014, 08:00

Roedd hi’n dasg anodd iawn i dîm cyflwyno Sgorio ddewis Gôl y Tymor ar gyfer 2013/14.

Rhannwyd y cyfrifoldeb am ddewis y gôl fuddugol rhwng Dylan Ebenezer, Nicky John, Morgan Jones a Malcolm Allen.

Er i Morgan a Dylan ddewis gôl Kieran Smith i’r Bala yn erbyn Aberystwyth, y gôl fuddugol oedd foli Scott McCoubrey i Lido Afan yn erbyn Port Talbot, ddewiswyd gan Nicky John a chadeirydd y pwyllgor, Malcolm Allen.

Dyma’r rhestr fer:

LEE HUNT
PRESTATYN v Y Seintiau Newydd – 26/08/13

CHRIS JONES
Gap Cei Connah v Y SEINTIAU NEWYDD – 13/09/13

CHRIS HARTLAND
LIDO AFAN v Caerfyrddin – 26/10/13

MARK CONNOLLY
Airbus UK v Y BALA – 29/11/13

LES DAVIES
BANGOR v Y Bala – 26/12/13

LEE HUNT
PRESTATYN v Y Drenewydd – 18/01/14

DANNY HUGHES
Y RHYL v Airbus UK – 17/02/14

SCOTT McCOUBREY
LIDO AFAN v Port Talbot – 14/03/14

KIERAN SMITH
Y BALA v Aberystwyth 11/04/14