Ole Gunnar Solskjaer: “methu aros” tan y tymor newydd

Ole Gunnar Solskjaer
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 30 Jul 2014, 14:51

Mae Ole Gunnar Solksjaer, rheolwr Caerdydd, yn “methu aros” tan ddechrau’r tymor newydd yn y Bencampwriaeth.

Roedd Solskjaer yn siarad gyda Sgorio wrth edrych ymlaen at gêm baratoadol olaf yr Adar Gleision, yn erbyn Wolfsburg o’r Almaen.

Bydd Caerdydd v Wolfsburg yn fyw ar wefan S4C am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn, 2 Awst.

Yna, gyda’r nos am 9 o’r gloch, bydd y gêm i’w gweld yn ei chyfanrwydd ar y teledu, ar S4C.