Bickerstaff yn gadael y Nomadiaid

w9cei-aber-6
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 19 Oct 2015, 13:38

Mae Allan Bickerstaff wedi gadael ei swydd fel rheolwr gap Cei Connah y bore ‘ma.

Gan ymuno gyda’r Nomadiaid yn Ionawr 2014, aeth Bickerstaff ymlaen i arwain y tîm o safleoedd y cwymp i’r 7fed safle yn Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl buddsoddiad mewn chwaraewyr newydd yr haf hwn, roedd disgwyliadau wedi cynyddu ar lannau Dyfrdwy – er i’r tîm golli 7 o’r 11 gêm agoriadol yn y Gynghrair.

Bydd dyletswyddau reoli’r tîm cyntaf yn cael ei gynnal ar sail dros-dro, yr hyn gan Jay Catton (is-rheolwr) gyda chymorth gan hyfforddwr y golwyr, Neil Ebbrell.

Dywedodd llefarydd o’r clwb:

“Mae’n ddrwg gennym i ffarwelio gyda Allan ac yn dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol. Yn strwythurol, bydd y Rheolwr newydd yn etifeddu carfan gref, Academi ragorol, ac yn fuan maes ymarfer 3G newydd – wedi’i amserlennu i’w gwblhau ym mis Tachwedd.

Mae’r ffocws yn troi at eu’n dwy gêm nesaf, yfory yn erbyn Tref Caernarfon yn rownd wyth olaf Cwpan Word ac yna ar y Sul yn erbyn Port Talbot.

Rydym yn gobeithio cael rheolwr newydd yn ei le cyn diwedd mis Hydref neu dechrau mis Tachwedd. “