Buddugoliaeth i Gymru yn Israel

International Football – UEFA Euro 2016 – Qualifying Round Group B – Israel v Wales
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 1 Apr 2015, 16:17

Buddugoliaeth i Gymru yn Israel
Ramsey a Bale (2) yn cyfuno i ennill 3-0 yn Haifa

Arhosodd tîm Chris Coleman yn ddi-golli ar ôl 5 gem yn grwpiau rhagbrofol Ewro 2016, gyda buddugoliaeth o 3-0 dros Israel yn Heifa.

Gyda charfan gryf, yn cynnwys Bales, Ramsey a Allen, cymerodd Cymru’r blaen gyda diolch i beniad Ramsey munudau cyn hanner amser.

Cafodd Cymru’r dechreuad perffaith i’r ail hanner, Bale yn taro cic-rydd o ochr y cwrt cosbi i ddyblu’r fantais ac Eytan Tibi yn derbyn cerdyn coch am ei ail drosedd.

Coronodd Bale noson gofiadwy i Gymru gyda 13 munud yn weddill.

Daw’r sgor terfynol i sefydlu’r tim ar frig grwp B cyn i Wlad Belg deithio i Israel nos Fawrth.