Cymru 2-0 Andorra: dathlu’n y parti mawr

Aaron Ramsey
Seiriol Hughes

Seiriol Hughes

Dydd Mawrth, 13 Hyd 2015, 20:52

Roedd hi’n fwy na gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno – roedd hi’n barti, roedd hi’n ddathliad ac roedd hi’n gyfle i’r dorf ddiolch i’r chwaraewyr am eu hymdrechion drwy gydol yr ymgyrch hanesyddol hwn.

Agorwyd y dathliadau gan y band chwedlonol Super Furry Animals ac wrth iddyn nhw ganu Rings Around the World, roedd cefnogwyr Cymru yn siwr o ddathlu am y daith o gwmpas Ffrainc yr haf nesaf.

Cododd y dorf fel un ar gyfer anthem y tîm cyn y gic gyntaf… Zombie Nation hynny yw! Canwyd y gân, wedi troi’n arwyddgan annhebygol i’r ymgyrch, droeon yn ystod y gêm.

Rhyw hanner cyfleoedd oedd ymdrechion cynnar Cymru gyda Gareth Bale yn poeni’r amddiffyn cyn i Hal Robson-Kanu orfod gadael y maes yn gynnar gydag anaf.

Gwrthodwyd dau gais am giciau o’r smotyn gan y dyfarnwr o’r Iseldiroedd ac er gwaethaf pwyso cyson a chiciau cornel rif y gwlith i Gymru, roedd hi’n gyfartal ddi-sgôr ar yr egwyl.

Ar ôl i’r hanner cyntaf orffen braidd yn fflat, dechreuodd yr ail hanner ar dân gyda Aaron Ramsey yn rhwydo chwe munud wedi troi. Peniodd Ashley Williams yn syth at y golwr o groesiad clyfar Bale ond roedd Ramsey yn y fan a’r lle i rwydo.

Roedd chwarae Cymru’n gorlifo gyda hyder a chafodd Ramsey gyfle gwych arall yn fuan wedyn cyn i Sam Vokes wastraffu cyfle’n y cwrt bach o beniad arall gan Williams.

Daeth yr ail gôl wedi 86 o funudau pan gafodd Bale ei haeddiant – croesiad Ben Davies yn ei gyrraedd ar y smotyn gwyn a doedd dim angen cyfle arall ar Bale i sgorio ei 19eg gôl ryngwladol.

Roedd hi’n fuddugoliaeth gyfforddus i Gymru a bydd Chris Coleman yn hapus gyda pherfformiadau gan seren y gêm, Aaron Ramsey, a’r eilydd ifanc Tom Lawrence yn enwedig.

Gyda’r ymgyrch mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed Cymru ar ben, arhosodd y stadiwm yn llawn ar gyfer y dathliadau a chyflwynwyd pawb o’r tîm i’r cefnogwyr diolchgar.

Er mai dyma diwedd yr ymgyrch, megis dechrau mae’r parti a’r daith i Ffrainc.