Cysylltiad Cymru a Malta: atgofion Borough United

Borough United Cwpan Cymru
Seiriol Hughes

Seiriol Hughes

Dydd Mawrth, 30 Jun 2015, 09:56

Bydd tîm Valletta o ynys Malta yn teithio draw i Gymru i herio’r Drenewydd yng Nghynghrair Europa nos Iau, ond mae hanes hir am gemau Ewropeaidd rhwng timau o Malta a Chymru.

Mae tîm prif ddinas yr ynys wedi ennill unwaith o’r blaen yn erbyn tîm o Gymru, pan ddaeth eu buddugoliaeth Ewropeaidd gyntaf erioed yn erbyn Y Barri yn 1998, ond roedd y gêm gyntaf erioed rhwng timau o Gymru a Malta dri degawd ynghynt yn 1963.

Borough United, clwb bychan o Gyffordd Llandudno, oedd y tîm cyntaf erioed o Gymru i ennill gêm Ewropeaidd dros ddau gymal ac fe wnaethon nhw hynny drwy guro Sliema Wanderers o Malta.

O fewn llai na degawd o ffurfio’r clwb yn 1954, roedd Borough United wedi ennill Cwpan Cymru yn 1963, gan greu sioc gwirioneddol drwy guro Casnewydd yn y rownd derfynol. Y dasg i Borough United yn y rownd gyntaf Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop oedd wynebu Sliema Wanderers, ac i godi arian ar gyfer y siwrne, fe rafflwyd byngalo gan y pwyllgor codi arian!

Roedd y siwrne draw i Malta yn arbennig o anodd, gyda’r awyren yn gorfod glanio yn Marseille ar ôl problemau gyda’r injan. 31 o oriau ar ôl gadael Cymru fach, glaniodd y tîm yn Malta ar ddiwrnod y gêm, oriau’n unig cyn y gic gyntaf.

Borough United a'r awyren

Er gwaetha’r problemau, llwyddodd Borough i sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr cyn ennill 2-0 yn yr ail gymal ar y Cae Ras, Wrecsam, a sicrhau lle’n yr ail rownd.

Yn anffodus, colli oedd hanes Borough United yn yr ail rownd yn erbyn Slovan Bratislava, y tîm gurodd y Seintiau Newydd yng Nghynghrair y Pencampwyr y tymor diwethaf, a daeth y clwb i ben yn 1969, chwe mlynedd yn unig ar ôl y campau Ewropeaidd yn erbyn Sliema.

Fel y gallwch weld o’r fideo uchod o eitem ddangoswyd ar Sgorio yn ôl yn 2010 cyn i Gyffordd Llandudno herio’r Seintiau Newydd yng Nghwpan Cymru, mae stori Borough United a’r cysylltiad gyda Malta yn stori ryfeddol.