Gareth Bale yw Chwaraewr y Flwyddyn

FAW Awards Dinner 2015
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 6 Hyd 2015, 09:25

Mae ymosodwr Real Madrid, Gareth Bale, wedi ei enwi’n Chwaraewr Cymreig y Flwyddyn yng nghinio blynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dyma’r pumed tro i Bale ennill y wobr, ac er iddo gael tymor digon sigledig gyda’i glwb yn La Liga ac yng Nghynghrair y Pencapwyr, mae ei chwe gôl yn ystod ymgyrch Euro 2016 wedi rhoi Cymru o fewn cyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 1958.

Yn ogystal ag ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, casglodd Bale wobrau Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr a Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr.

Rheolwr Cymru, Chris Coleman, gasglodd gwobr flynyddol y Wasg gyda Tommy O’Sullivan o glwb Caerdydd yn ennill gwobr Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn.

Roedd hi’n noson dda i dîm Merched Reading wrth i’r amddiffynnwr, Kylie Davies, cael ei urddo’n Chwaraewr y Flyddyn y Merched gyda’r ymosodwr, Helen Ward, yn cipio gwobr Chwaraewyr y Flyddyn y Chwaraewyr.

Yn ogystal â’r prif wobrau cafodd Alan Curtis ei urddo â Gwobr Oes gan y Gymdeithas Bêl-droed a chafodd Sion Edwards o Fangor gwobr Chwaraewr Clwb Uwch Gynghrair Cymru.


Gwobrau’r Dynion
Chwaraewr y Flwyddyn: Gareth Bale
Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr: Gareth Bale
Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr: Gareth Bale
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Tommy O’Sullivan
Gwobr y Wasg: Chris Coleman
Gwobr Oes y Gymdeithas Bêl-droed: Alan Curtis
Chwaraewr Clwb Uwch Gynghrair Cymru: Sion Edwards (Bangor)

Gwobrau’r Merched
Chwaraewr y Flwyddyn: Kylie Davies
Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr: Helen Ward
Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr: Natasha Harding
Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn: Charlie Estcourt