Oriel yr Anfarwolion: Scott Ruscoe

scott-ruscoe-1

Scott Ruscoe yw aelod diweddaraf Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Dechreuodd Ruscoe ei yrfa gyda’r Drenewydd ond am ei gyfnod gyda’r Seintiau Newydd y bydd Ruscoe’n cael ei gofio.

Ruscoe yw un o’r chwaraewyr canol cae mwyaf dylanwadol yn hanes y gynghrair, ac yng nghrys y Seintiau, enillodd Pencampwriaeth y gynghrair wyth o weithiau, codi Cwpan Cymru bedair gwaith ac ennill Cwpan y Gynghrair bum gwaith hefyd.

Ruscoe sy’n dal record ymddangosiadau’r clwb yn ogystal â record holl hanes y gynghrair am chwarae gemau’n Ewrop – deg ar hugain o gemau i gyd.

Chwaraeodd dros bedwar cant o gemau a sgorio 73 gôl yn Uwch Gynghrair Cymru.

Bellach, mae Ruscoe’n rhan allweddol o dîm hyfforddi’r Seintiau ac yn dal i godi cwpanau