Tlws trawiadol Amie

AMIE STAFFORD
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Llun, 16 Maw 2015, 15:51

Y Seintiau Newydd yw’r clwb cyntaf i godi cwpan newydd sbon Uwch Gynghrair Cymru – ond beth yw’r stori tu ôl i’r tlws trawiadol hwn?

Amie Stafford o Ysgol Tir Morfa, Y Rhyl enillodd gystadleuaeth i gael cyd-ddylunio’r tlws newydd gyda chwmni ‘British Ironworks’ o Groesoswallt.

Cafodd criw Sgorio gyfle i longyfarch Amie sydd yn gefnogwr brwd o glwb Prestatyn a chael sgwrs gyda phennaeth Ysgol Tir Morfa, Carol Edwards a swyddog cyswllt yr ysgol, Mandy Lewis oedd yn falch iawn o lwyddiant eu disgybl.