Y Bala, Airbus a’r Drenewydd sydd yn disgwyl eu ffawd yng Nghynghrair Ewropa

europa
Sgorio

Sgorio

Dydd Gwener, 19 Meh 2015, 15:59

Y Bala, Airbus a’r Drenewydd fydd yn ymgymryd ar daith Ewropeaidd yn rowndiau rhagbrofol cynghrair Europa yr haf hwn.

Er bod gêm olaf tymor 2014/15 dim ond cwta fis yn ôl, bydd cynrychiolwyr Uwch Gynghrair Cymru yn edrych ymlaen at y tymor newydd ac gemau rhagbrofol cynghrair Europa sydd ar y gweill yn yr wythnosau nesaf.

Bydd 102 o dimau yn cystadlu yn rownd gyntaf rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa, gydag enwau’r timau yn cael eu tynnu o’r het ar y 22 o Fehefin – gyda’r timau sydd wedi eu dethol yn herio’r timau sydd heb eu dethol – gyda’r rhestr lawn o’r timau sydd yn cystadlu isod.

Mae cynrychiolwyr yr Uwch Gynghrair Cymru Dafabet yn cynnwys Y Bala, Airbus a’r Drenewydd.

Bydd gemau rowndiau rhagbrofol yn cael ei gynnal dros 2 gymal, gyda’r cyntaf ar yr 2ail o Orffennaf ac yr ail gymal ar y 9fed o Orffennaf.

Hanes y clybiau yn Ewrop

Y Bala
Cipiodd Bala yr sail safle yn Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor gan sicrhau lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa am dim ond yr ail waith yn eu hanes. Y tro diwethaf i’r Clwb gystadlu yng Nghynghrair Europa – gan guro Port Talbot o 1-0 yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn 2013 i gyrraedd Ewrop – collwyd o 3-2 dros ddau gymal i FC Levadia Tallinn o Estonia.

Airbus
Mae Airbus wedi cystadlu yn gyson yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa ers 2013. Cafodd y rheolwr, Andy Preece lwyddiant wrth arwain y tîm i’r 2il safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn 2012/13 a 2013/14 – yn ogystal a ennill lle yn rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa y tymor yma gan orffen yn 3ydd.

Yn 2013 roedd Airbus yn anlwcus i golli ar goliau oddi cartref i FK Ventpils o Latfia – gyda’r sgôr yn gorffen 1-1 dros ddau gymal. Hefyd yn 2014 collodd Airbus o 3-2 dros dau gymal i FK Haugesund o Norwy.

Y Drenewydd
Dyma’r tro cyntaf ers 1996 i’r Drenewydd gystadlu yn Ewrop ar ôl buddugoliaeth yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Aberystwyth o 2-1.

1996/97: Skonto Riga (Latfia) – colli 7-1 dros y ddau gymal
1998/99: Wisla Krakow (Gwlad Pwyl) – colli 7-0 dros y ddau gymal

Mawrion y rownd gyntaf.

West Ham (Lloegr)
Fydd enw West ham yn yr het i gystadlu am le yn y rownd ragbrofol cyntaf, yr hyn oherwydd eu bod wedi gorffen ar frig y gynghrair chwarae teg. Hyn fydd y tro cyntaf ers 2006 i’r Hammers gystadlu yn Ewrop – lle collwyd o 4-0 yn erbyn Palmero o’r Eidal yng Nghwpan UEFA .

Mae’r clwb o ddwyrain Llundain hefo hanes llewyrchus yng nghystadlaethau Ewropeaidd. Cododd Bobby Moore y Cup Winners Cup yn Wembley yn 1965 – gan drechu 1860 Munich o 2-0.

Aeth West Ham i’r rownd derfynol eto yn 1976 – er colli yn erbyn Anderleht yn Stadiwm Heysel, Brwsel o 4-2.

Dan arweiniad y rheolwr Harry Redknapp enillodd West Ham yr Intertoto cup yn 1999 gan guro Metz o 3-2 dros 2 gymal.

Gyda apwyntiad y rheolwr Slaven Bilić yn ddiweddar ac enwau cyfarwydd megis Andy Carrol a Enner Valencia, yn ogystal ar Cymro James Collins – West Ham yw’r ffefrynnau i ennill lle yn rownd y grwpiau.
Am fwy o wybodaeth am

RED STAR BELGRADE (Serbia)

Un o fawrion pêl-droed Ewropeaidd, mae Red Star Belgrade wedi ennill Cynghrair y Pencampwyr yn 1991- gan guro Marsaille yn Bari, Yr Eidal ar giciau o’r smotyn. Maent hefyd wedi cyrraedd rowndiau cyn derfynol ar sawl achlysur, gan golli i Fiorentina yn 1956-7 a Panathanikos yn 1970-1.

Yn ogystal a Cynghrair y Pencampwyr ( neu Cwpan Ewrop) – mae Red Star Belgrade hefyd wedi cyrraedd rownd derfynol cwpan UEFA yn 1979 – er colli bu ei hanes i Borussia Mönchengladbach o’r Almaen o 2-1.

Gyda awyrgylch bygythiol a egniol gan y ‘Delije’, y cefnogwyr cartref yn stadiwm Rajko Mitić – sydd yn dal hyd at 60,000 o gefnogwyr – gall y gefnogaeth ffyddlon yma fod yn dyngedfennol i lwyddiant y tîm cartref, er fod canlyniadau wedi bod yn siomedig wrth geisio ennill lle yn Cynghrair Europa dros y blynyddoedd diweddaf.

Am fwy o wybodaeth am rowndiau rhagbrofol Cynghrair Europa, http://kassiesa.home.xs4all.nl/bert/uefa/

Wedi eu dethol
————————
West Ham United
Sheriff Tiraspol
NK Rosenborg BK
IF Elfsborg
Hajduk Split
Apollon Limassol
Omonia Nicosia
Slovan Bratislava
AIK Stockholm
Neftchi Baku
Slask Wroclaw
MSK Zilina
FK Aktobe
Go Ahead Eagles
Red Star Belgrade
DVSC Debrecen
Brøndby IF
Shakhtior Saligorsk
Dinamo Tbilisi
Litex Lovech
Vojvodina Novi Sad
Spartak Trnava
FH Hafnarfjardar
St. Johnstone
Zeljeznicar Sarajevo
Randers FC
Strømsgodset IF
KR Reykjavik
Jagiellonia Bialystok
FC Botosani
Lokomotiva Zagreb
Shamrock Rovers
F91 Dudelange
Inter Baku
Linfield Belfast
FC Beroe Stara Zagora
Valletta FC
Differdange 03
Rabotnicki Skopje
Torpedo Zhodino
Aberdeen
Dacia Chisinau
NK Koper
St. Patrick’s Athletic
Beitar Jerusalem
Zrinjski Mostar
HB Torshavn
Buducnost Podgorica
Birkirkara
NK Domzale
FC Vaduz

Heb Eu Dethol
Cukaricki Belgrade
Celje
Kalju Nomme
Flora Tallinn
Ferencváros
Sutjeska Niksic
Skonto Riga
Víkingur
Renova Dzepciste
Odd Grenland
FK Kukësi
Gabala FK
Shkendija Tetovo
Ordabasy Shymkent
Kairat Almaty
MTK Budapest
Shirak Gyumri
Mladost Podgorica
KF Laçi
Ulisses Yerevan
Saxan Gagauz Yeri
Glentoran
VPS Vaasa
Dinamo Batumi
Spartak Tskhinvali
Kalev Sillamäe
FC Lusitanos
SJK Seinäjoki
FC Lahti
Vikingur Reykjavik
FK Jelgava
Olimpic Sarajevo
NSI Runavik
Sant Julià
Atlantas Klaipeda
Glenavon
Cork City
Uni College Dublin
Kruoja Pakruojis
La Fiorita
Airbus UK Broughton
Partizani Tirana
Progrès Niederkorn
FK Trakai
Spartaks Jurmala
Balzan FC
Bala Town
Juvenes Dogana
Newtown
Alashkert FC
College Europa