Y Drenewydd yn taro’r nod wrth i glybiau Cymru ddechrau ymgyrch Europa

europa
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 2 Jul 2015, 20:09

Roedd hi’n noson gymysg i dimau Cymru yng Nghynghrair Europa wrth i’r Bala, Airbus UK a’r Drenewydd gystadlu yn y rownd ragbrofol gyntaf.

Y Drenewydd oedd tîm mwyaf llwyddiannus y noson gyda buddugoliaeth wych 2-1 yn erbyn Valletta yn eu gêm Ewropeaidd gyntaf ers 1998.

Bu’n rhaid i James Coates arbed cic o’r smotyn hwyr wrth i Airbus golli 1-3 yn erbyn NK Lokomotiva o Croatia a gorffennodd y Bala gyda deg dyn wrth golli 3-1 yn Differdange yn Lwcsembwrg.

Uchafbwyntiau: Y Drenewydd 2-1 Valletta

Gyda phob tocyn wedi’i werthu a thorf o 1,420 gefnogwyr disgwylgar ar Barc Latham, fe reolodd y Drenewydd y munudau agoriadol yn llwyr, gyda Tom Goodwin a Luke Boundford yn gwastraffu cyfleon da yn y deg munud agoriadol.

Ceisiodd Valletta frwydro eu ffordd yn ôl i mewn i’r gêm gyda steil gorfforol o chwarae, ond arweniodd eu taclo caled at y gôl agoriadol, bum munud cyn yr egwyl. Ildiodd capten y tîm o Malta, Ian Azzopardi, gic rydd am dacl wyllt ar Boundford mewn safle peryglus.

O’r gic rydd ddilynodd, chwipiodd Matty Owen y bêl i mewn i’r cwrt a pheniodd Boundford i’r gornel uchaf i roi’r Drenewydd ar y blaen. Honno oedd dim ond ail gôl y Drenewydd yn Ewrop, bron i ddau ddegawd ar ôl yr un ddiwethaf gan Romilly Brown yn erbyn Skonto Riga yn 1996.

Cafodd y Robinaid gyfleon yn munudau cynnar yr ail hanner, yn cynnwys smonach ryfeddol yn y cwrt pan fethodd y tîm cartref â sgorio o bron i hanner dwsin cynnig ar y gôl.

A cosbwyd tîm Chris Hughes wedi 73 munud pan beniodd yr eilydd o Frasil, Jhonnattann, i gefn y rhwyd i sgorio gôl oddi cartref werthfawr i’r tîm o Malta.

Anfonwyd capten yr ymwelwyr, Azzopardi, o’r maes gyda phum munud yn weddill a manteisiodd y tîm cartref i’r eithaf pan rwydodd Jason Oswell yn y cwrt bach yn y funud olaf.

Roedd hi’n fuddugoliaeth haeddiannol i Chris Hughes a’i dîm, fydd â gobaith gwirioneddol o arwain ei dîm i’r ail rownd wedi’r cymal oddi cartref yr wythnos nesaf yn Malta.

Uchafbwyntiau: Airbus UK 1-3 NK Lokomotiva

Colli oedd hanes Airbus UK yn eu gêm yn erbyn NK Lokomotiva Zagreb, ar Nantporth, o dair gôl i un.

Aeth tîm Andy Preece ar y blaen drwy gôl Wayne Riley wedi 27 o funudau ac roedd y tîm o Frychdyn ar y blaen o gôl i ddim ar yr egwyl.

Ond o fewn tair munud i ddechrau’r ail hanner, roedd chwaraewr peryclaf y tîm o Croatia, Damir Sovsic, wedi dod â’r ymwelwyr yn gyfartal.

Dyblodd Mirko Maric y fantais wedi 61 o funudau, cyn i Marko Kolar rwydo trydedd anhaeddiannol i’r ymwelwyr hanner ffordd drwy’r ail hanner.

Bu’n rhaid i James Coates arbed cic o’r smotyn yn y deng munud olaf a bydd mynydd i’w ddringo gan y tîm o Frychdyn yn y cymal oddi cartref yr wythnos nesaf.

Roedd y Bala dair i ddim ar ei hôl hi mewn llai na hanner awr yn Lwcsembwrg yn erbyn Differdange, ond llwyddodd Ian Sheridan i dynnu gôl oddi cartref yn ôl cyn yr egwyl.

Doedd dim goliau’n yr ail hanner ond cafodd tîm Faes Tegid ergyd yn y deg munud olaf pan anfonwyd Mike Hayes o’r maes ar ôl derbyn dau gerdyn melyn.

Er gwaethaf y golled, mae’r gôl oddi cartref hollbwysig yn rhoi gobaith i Colin Caton a’i dîm yn yr ail gymal yn y Rhyl yr wythnos nesaf.