5-y-penwythnos

5 y pen

Sgorio sydd yn dewis tîm 5-bob-ochr Uwch Gynghrair Cymru.

Dave Roberts (Llandudno)
Fe gadawodd Roberts ei 7fed llechen lân o’r tymor brynhawn Sadwrn, ac hynny wedi i’w dîm fynd lawr i 10 dyn yn yr hanner cyntaf yn erbyn ei gyn-glwb, Y Drenewydd. Roedd y Robiniaid yn pwyso a phwyso am weddill y gêm ond yn methu curo Roberts rhwng y pyst i Landudno wrth i’r gêm orffen yn ddi-sgôr. Dyw tîm Alan Morgan heb sgorio yn eu pedair gêm ddiwethaf ym mhob cystadleuaeth, ac ond wedi sgorio saith gôl mewn 13 gêm gynghrair hyd yma’r tymor hwn.

Jordan Davies (Bangor)
Sgoriodd Jordan Davies ei gôl gyntaf i Fangor ar y Graig nos Wener ar ôl curo’i ddyn yn hyfryd cyn gyrru’r bêl i gefn y rhwyd. Mae’r gŵr ifanc sydd ar fenthyg o Wrecsam wedi bod yn ddylanwadol i’r Dinasyddion y tymor hwn ac wedi perfformio’n gyson yn safle’r cefnwr chwith ac yng nghanol cae gan helpu tîm Andy Legg i ddod yn gyfartal ar bwyntiau gyda gap Cei Connah yn yr ail safle.

Ryan Wade (Y Bala)
Mae Ryan Wade yn cael ei le yn nhîm 5-y-penwythnos ar ôl sgorio un a chreu un ar Barc Waun Dew brynhawn Sadwrn. Peniodd Wade i gefn y rhwyd wedi dim ond dau funud yn erbyn Caerfyrddin, a gwnaeth yn wych i guro tri amddiffynnwr cyn tynnu’r bêl yn ôl i Chris Venables gael sgorio’r gôl fuddugol. Os all y chwaraewyr newydd fel Wade a Venables barhau i gyfuno yn effeithiol yna fe ddylai’r Bala allu sicrhau lle yn y Chwech Uchaf yn ddi-drafferth.

Jordan Lam (Met Caerdydd)
Mae myfyrwyr Met Caerdydd yn parhau i or-gyflawni yn eu tymor cyntaf yn UG Cymru ar ôl trechu Rhyl 4-0 yng Nghyncoed ddydd Sul. Roedd hi’n gêm gwbl un-ochrog wedi i Met sgorio deirgwaith yn y chwarter awr cyntaf gyda Jordan Lam yn creu y gôl gyntaf wedi rhediad lawr y chwith. Sgoriodd Lam yn yr ail hanner yn dilyn camgymeriad gan Owen Evans yn y gôl i’r Claerwynion, ei drydedd gôl o’r tymor.

Luke Borrelli (Aberystwyth)
Luke Borrelli oedd enillydd gwobr ‘Seren y Gêm’ ar Goedlan y Parc brynhawn Sadwrn wrth i Aberystwyth guro Airbus o dair gôl i un gyda Borrelli yn sgorio ddwywaith i dîm Matthew Bishop. Roedd Airbus yn llwyr reoli’r hanner cyntaf ond Aber aeth ar y blaen wedi i Borrelli droi croesiad Chris Jones i gefn y rhwyd. Ac fe gafodd y blaenwr ei ail yn yr ail hanner wedi i golwr Airbus, Ryan Neild wneud smonach llwyr yn y cwrt, a Borrelli yn cael ei wobr am roi pwysau ar y gôl-geidwad cyn taro i gefn y rhwyd wag.