Abertawe’n penodi Bradley yn lle Guidolin

RSA, FIFA WM 2010, USA Training
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 3 Oct 2016, 11:26

Mae Abertawe wedi diswyddo Francesco Guidolin gyda’r Americanwr, Bob Bradley, yn cael ei benodi fel rheolwr newydd y Swans.

Dyw Abertawe heb ennill yn Uwch Gynghrair Lloegr ers eu buddugoliaeth yn erbyn Burnley ar ddiwrnod agoriadol y tymor ac mae’r pwysau wedi bod yn cycnyddu ar yr Eidalwr, Guidolin.

Bydd cyn reolwr America a’r Aifft, Bradley, yn gadael ei swydd gyda Le Havre yn Ligue 2 yn Ffrainc er mwyn cymryd yr awennau yn Stadiwm Liberty.

“Rydyn ni’n amlwg yn siomedig i weld Francesco yn gorfod gadael,” meddai cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, gadarnhaodd fod tîm rheoli Guidolin – Diego Bortoluzzi, Gabrielle Ambrosetti a Claudio Bordon – hefyd yn gadael y clwb.

“Roeddem yn credu ei fod yn haeddu’r cyfle ar ôl ei waith tymor diwethaf. Yn anffodus nid ydym wedi llwyddo i barhau â’r perfformiadau a rydym yn credu fod angen gwneud y newid cyn gynted â phosib er mwyn symud ymlaen,” ychwanegodd Jenkins.

Roedd Bradley, sydd hefyd wedi rheoli Stabæk o Norwy, wedi creu argraff ffafriol ar berchnogion Abvertawe, Steve Kaplan a Jason Levien.

“Mae’n hyfforddwr sy’n uchel ei barch ac mae ganddo fôr o brofiad ar y lefel rhyngwladol a domestig,” meddai Jenkins.

“Mae’n ymwybodol iawn o athroniaeth bêl-droed y clwb a bydd yn cynnig arweiniad cryf ac yn adnewyddu ein ffydd i allu cystadlu ar y lefel yma.”

“Dyw hi byth yn hawdd newid rheolwr, ond rydym yn edrych ar benodiad hir dymor ac yn hyderus y gall Bob sefydlogi materion ar ac oddi ar y maes.”

Bydd Bradley yn cymryd gofal o’i gêm gyntaf wrth i Abertawe deithio i’r Emirates i herio Arsenal yn Uwch Gynghrair Lloegr ar 15 Hydref.