Blog: bydd ganddon ni Bordeaux am byth

Dathlu gôl Hal Robson-Kanu
Seiriol Hughes

Seiriol Hughes

Dydd Mawrth, 14 Jun 2016, 07:00

Efallai bod fy nhraed yn ôl ar y ddaear Cymru ar ôl cyrraedd adref o Bordeaux, ond mae fy mhen i’n dal i freuddwydio’n yn y cymylau.

Mae hi’n anodd i grynhoi’r holl emosiynau – nerfusrwydd, pryder, angerdd, rhyddhâd, balchder. Y cyfan yn gymysg oll i gyd, ond y cyfan yn bleser pur hefyd.

Doedd fy nisgwyliadau i ddim yn uchel cyn teithio. Y perfformiad yn erbyn Sweden yn y gêm gyfeillgar olaf oedd yn gyfrifol am hynny, gan ddatod pob dadl oedd gen i o blaid Cymru’n y Bencampwriaeth.

O’r eiliad y cyrhaeddais i ganol Bordeaux ddydd Gwener fodd bynnag, roedd ‘na deimlad heintus o’n cwmpas, yn llifo allan o’r bariau yn sŵn y canu a’r chwerthin.

Fe barhaodd y canu’r holl ffordd o’r bariau nos Wener i’r sgwariau ddydd Sadwrn, o gerbydau tynn y tram i gornel goch y stadiwm.

Yna’r anthem: ysgubol. Roedd ‘na bum mil ar hugain o leisiau’n canu a phum mil ar hugain o ddagrau’n dianc hefyd.

Roedd pob un o’r chwaraewyr ar y cae yn arwyr: Danny Ward yn delio â’r pwysau aruthrol o ennill ei gap cystadleuol cyntaf i Gymru yn ein gêm ryngwladol fwyaf ers dros hanner canrif. Chris Gunter yn cadw’i ben ar y bêl ac yn codi’r dorf ar bob cyfle. Joe Allen yn hawlio’r sylw a rheoli’r canol cae. Pwy arall ond Gareth Bale yn rhwydo’r gôl gyntaf i Gymru. Yr eilyddion, Joe Ledley a Hal Robson-Kanu, yn ailgynnau’r tân mewn tîm oedd yn pylu.

Mae ‘na stori i’w hadrodd am bob un o’r chwaraewyr, ond chwaraewr gorau Cymru i mi oedd Ben Davies.

Dychmygwch pa mor wahanol fyddai’r gêm wedi bod pe na bae Davies wedi clirio’r bêl oddi ar y llinell o gynnig Marek Hamsik, dair munud wedi’r chwiban cyntaf.

Dwi’n grediniol bod ‘na fydysawd paralel lle sgoriodd Hamsik i Slofacia, lle gollodd Cymru’r gêm a lle mae Lloegr ar frig y grwp. Wrth lwc, does dim rhaid i ni fyw yn y bydysawd hwnnw; cawn fyw yn y byd go iawn, lle’n rhyfeddol mae cic hosan – yn llythrennol – gan Hal Robson-Kanu wedi dod â llawenydd i filoedd yn Bordeaux a chenedl gyfan yr ochr arall i’r Môr Udd.

Wedi’r gêm, roedd hi’n noson arbennig arall yn Bordeaux. Yng nghanol yr holl ganu a gweiddi, y frawddeg glywais i amlaf oedd, “dwi’m yn gwybod beth i’w ddweud.”

Doedd llawer ddim yn gwybod sut i ymateb. Iwgoslafia a chynllwynio’r Llen Haearn yn ’76, llaw Joe Jordan yn 77’, cic o’r smotyn Paul Bodin a Romania ’93, cyffuriau Rwsia yn 2003: os nad oedden ni’n gyfarwydd â chatalog methiannau Cymru cyn y misoedd diwethaf, mae’r cyfryngau wedi ein hatgoffa’n ddi-stop o’r torcalon Cymreig.

Nawr, mae ganddon ni restr newydd yn dechrau gyda Bordeaux 2016. Ac efallai bydd Lens, Toulouse a phwy a wyr lle arall yn cael eu hychwanegu at y rhestr. Ar ôl blynyddoedd o siom, roedd teimlo llawenydd y dathlu’n teimlo’n anghyfforddus o wahanol, cyn ymgolli’n y pleser pur.

Dydw i ddim yn mynd i gemau nesaf Cymru’n y grwp yn Lens na Toulouse. Mae’n ddigon posib y bydd awyrgylch gwefreiddiol yn y gemau hynny hefyd a’r tîm yn gosod eu stamp yn gliriach byth ar y gystadleuaeth.

Beth bynnag fydd yn digwydd yn y gemau nesaf, bydd neb yn gallu gwadu’r noson arbennig yn Bordeaux.

Ar ddiwedd y ffilm Casablanca, wrth ffarwelio ag Ingrid Bergman, mae Humphrey Bogart yn dweud y geiriau anfarwol “we’ll always have Paris.”

Rydw i’n lwcus i fod yn un o’r rhai sy’n gallu dweud “we’ll always have Bordeaux.”