Breuddwydio am y gynghrair bêl-droed

Cefnogwyr Wrecsam
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 11 Feb 2016, 10:29

Gyda Wrecsam dros hanner ffordd drwy eu wythfed tymor yn y gyngres, mae na obaith o hyd mae eleni yw’r flwyddyn y bydd y Dreigiau yn dychwelyd i’r gynghrair bêl-droed.

Mae tîm Gary Mills yn 12fed yn y tabl, ond dim ond pedwar pwynt y tu ôl i Eastleigh sy’n y 5ed safle, sef ble bydd rhaid i Wrecsam ei gyrraedd os am frwydro am ddyrchafiad yn y gemau ail-gyfle.

Er bod Wrecsam yn 12fed, dim ond pedwar clwb sydd â record sgorio gwell na’r cochion yn Nghynghrair Vanarama y tymor hwn, sef Cheltenham (1af), Forest Green (2il), Grimsby (3ydd) a Woking (6ed).

Mae gemau pwysig ar y gweill i Wrecsam, a’r cyntaf brynhawn Sadwrn, gartref yn erbyn Bromley, sydd ddim ond dau safle o dan y Dreigiau yn y tabl.

Ar ôl ennill dim ond 2 o’u 10 gêm gynghrair ddiwethaf, a’u tair gêm ddiwethaf wedi gorffen yn gyfartal mae angen i Wrecsam ddechrau troi’r gemau cyfartal i mewn i fuddugoliaethau os am gyfle i gyrraedd y 5ed safle a brwydro am eu lle yn ôl yng nghynghrair pêl-droed Lloegr.