Broadhead yn arwyddo contract proffesiynol gyda Everton

Football – Friendly – Wales U17 v Czech Republic U17
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 1 Feb 2016, 12:40

Mae’r asgellwr o Fangor wedi arwyddo ei gytundeb proffesiynol cyntaf – fydd yn ei gadw gyda gleision Glannau Mersi hyd at ddiwedd tymor 2016/17.

Mae Nathan Broadhead, 17 – â ddisgrifwyd fel asgellwr talentog gyda dwy droed dda – wedi cynrychioli Cymru dan 16, 17 & 19.

Ar ôl tymor llwyddiannus – gan ddechrau 13 o gemau a sgorio 9 i dîm dan 18 Everton – bydd Broadhead yn edrych i ymuno a tîm dan 21 Everton ar gyfer y tymor newydd.

Ymunodd Broadhead â Everton yn 10 oed ar ôl cyfnod gyda academi Bangor a Wrecsam.