Caerdydd yn diswyddo Trollope

Pêl generic
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 4 Oct 2016, 13:07

Cyhoeddodd Clwb Pel Droed Caerdydd amser cinio dydd Mawrth fod prif hyfforddwr y clwb, Paul Trollope wedi ddiswyddo ar ôl dechrau gwael i’r tymor

Diswyddwyd Trollope, llai na pum mis yn y swydd, yn dilyn dechreuad siomedig iawn i’r tymor yn y Bencampwriaeth.

Mae’r Adar Gleision yn 23ain yn y Bencampwriaeth ar ôl rhediad o gemau lle mae’r clwb wedi ennill dim ond dwy o’r 11 gêm yn y gynghrair.

Yn ogystal â Trollope, mae’r hyfforddwr Lennie Lawrence a’r cyfarwyddwr perfformiadau Ryland Morgans hefyd wedi gadael y clwb.

Trollope yw’r trydydd hyfforddwr i gael ei ddiswyddo gan glwb o Gymru yr wythnos hon ar ôl i Gasnewydd ddiswyddo Warren Feeney dydd Mercher diwethaf ac Abertawe ddiswyddo Francesco Guidolin dydd Llun.