Cei Connah allan o Ewrop

cei-voj-1
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Iau, 21 Jul 2016, 23:23

Daeth ymgyrch Ewropeaidd cyntaf Cei Connah i ben nos Iau wrth i FK Vojvodina eu curo o 1-3 dros dau gymal yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa.

Fe gollodd Y Nomadiaid y cymal cyntaf yn Novi Sad o 1-0 wythnos ynghynt ac roedd dwy gôl Dejan Meleg yn ormod i dîm Andy Morrison yn y cymal cartref wrth i’r Nomadiaid golli o 1-2 yn Belle Vue, y Rhyl.

Sgoriodd Dejan Meleg gic rhydd wedi 7 munud o chwarae ac fe sgoriodd eto ar ôl yr egwyl o’r smotyn – Horan yn llorio Palocevic a Meleg yn rhwydo o 12 llath.

Cafodd Cei Connah gyfnod da o’r meddiant ar ôl ail gôl Vojvodina a llwyddodd Mike Wilde sgorio ei gôl gyntaf i’r clwb ar ôl trosglwyddo o’r Seintiau Newydd dros yr haf.

Er ymdrechion hwyr Y Nomadiaid roedd y tîm o Serbia yn rhy gryf dros y ddau gymal, er hyn mi fydd Cei Connah yn ymfalchio yn eu antur Ewropeaidd cyntaf ar ôl curo Stabæk yn y rownd ragbrofol cyntaf.

Mi fydd Cei Connah y nawr yn troi at baratoi at y tymor newydd ar daith i Caerfyrddin ar gyfer gêm gyntaf fyw Sgorio ar ddydd Sadwrn y 13 o Awst.

Heddiw mewn hanes

18 Tachwedd

Chwaraeodd Caneris Caernarfon gêm bêl-droed am y tro cyntaf ar y diwrnod yma ym 1876