Coleman wedi dewis gêm anodd

International Football – Pre-Euro Wales Training Camp
Sgorio

Sgorio

Dydd Sadwrn, 4 Jun 2016, 07:00

Cyfaddefodd rheolwr Cymru, Chris Coleman, ei fod wedi dewis chwarae yn erbyn Sweden mewn gêm gyfeillgar er mwyn sicrhau gêm anodd i’w dîm cyn hedfan i Ffrainc.

“Dwi eisiau gêm gyfeillgar yn erbyn timau sydd yn anodd iawn, dyna sut mae dysgu,” eglurodd. “Nid yn erbyn tîm lle mae disgwyl i chi ennill.”

“Dwi’n hoffi gweld ein chwaraewyr yn cael eu profi yn erbyn timau fel Macsico a’r Iseldiroedd.”

Ond roedd Coleman yn awyddus i egluro pam mai un gêm gyfeillgar yn unig sydd gan Gymru yn yr wythnos olaf cyn hedfan i’w canolfan Euro 2016 yn Dinard, Llydaw.

“Roedden ni eisiau amser ychwanegol gyda’r chwaraewyr ar ddiwedd y tymor,” meddai. “Roedden ni eisiau gweithio gyda nhw er mwyn atgyfnerthu yr hyn ’da ni wedi bod yn ei wneud a’r hyn sydd angen i ni ei wneud.”

Mae Sweden yng Ngrŵp E o Euro 2016 ochr yn ochr â gwrthwynebwyr rhagbrofol Cymru, Gwlad Belg, yn ogystal â’r Eidal a Gweriniaeth Iwerddon.

Bydd uchafbwyntiau o’r gêm o’r Friends Arena, Stockholm i’w gweld ar S4C am 10.00yh dydd Sul 5 Mehefin.