Ton Pentre â chyfle arall o flaen y camerâu

ton v bangor
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Mercher, 7 Dec 2016, 12:32

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac S4C wedi penderfynu dychwelyd i Don Pentre y penwythnos yma ar gyfer eu gêm yn erbyn Bangor yn 3edd rownd Cwpan Cymru JD yn dilyn gohiriad y gêm y penwythnos diwethaf gan fod y cae wedi rhewi.

Bydd y gêm yn cael ei chynnal ym Mharc Ynys, Ton Pentre ar ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr 2016 gyda’r gic gyntaf am 17:15.

Dyw’r clybiau heb gwrdd ers tymor 1996/97 pan oedd Ton Pentre yn aelodau o Uwch Gynghrair Cymru, a bydd y cefnogwyr yn edrych ymlaen at y gêm ar ôl bron i 20 mlynedd ers i’r timau gwrdd y tro diwethaf.

Mae gan Bangor record arbennig yn y gystadleuaeth, wedi codi’r gwpan ar wyth achlysur ac wedi cyrraedd 18 o rowndiau terfynol.

Dyw Ton Pentre ond wedi cyrraedd ffeinal Cwpan Cymru unwaith yn eu hanes, ac hynny yn 1922 pan gollon nhw 2-0 yn erbyn Caerdydd.

Ton Pentre v Bangor yn FYW ar S4C ddydd Sadwrn, 10 Rhagfyr 2016 am 17:00.

Bydd cyfle i ymuno â’r criw hanner awr yn gynt am 16:30 ar wefan s4c.cymru am y diweddaraf o’r meysydd chwaraeon.