Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon

International Football – UEFA Euro 2016 France – Round of 16 – Wales v Northern Ireland
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Sul, 26 Jun 2016, 12:11

Mae Cymru ymlaen i rownd wyth olaf Euro 2016 ar ôl curo Gogledd Iwerddon 1-0 diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Gareth McAuley.

Bydd Cymru nawr yn disgwyl i weld beth fydd y canlyniad rhwng Hwngari a Gwlad Belg nos Sul, gan wybod mae’r enillwyr fydd eu gwrthwynebwyr nesaf yn rownd yr wyth olaf nos Wener yn Lille.

Doedd hi ddim yn glasur o bell ffordd ym Mharc des Princes gyda Gogledd Iwerddon yn hynod drefnus yn amddiffynnol ac yn cyfyngu cyfleon clir i Gymru.

Fe gafodd Wayne Hennessey ambell i arbediad i’w wneud o ergydion o bellter yn ystod yr hanner cyntaf ond cafwyd dim cyfle clir yn un pen o’r cae na’r llall.

Doedd Gogledd Iwerddon dim ond wedi ildio dwy gôl yn hanner cyntaf eu 24 gêm ddiwethaf ac roedd eu hamddiffyn yr un mor styfnig ym Mharis.

Wedi’r egwyl fe gafodd Gareth Bale gyfle gyda chic rydd o bellter ond fe arbedodd Michael McGovern y cynnig – yn rhyfeddol, honno oedd yr unig ergyd gafodd Cymru ar y targed yn ystod y gêm.

Fe ddaeth unig gôl y gêm wedi 75 munud wrth i Gareth Bale chwipio croesiad isel ar draws wyneb y gôl i lwybr Hal Robson-Kanu, a doedd gan Gareth McAuley ddim dewis ond estyn ei droed allan i geisio rhwystro’r bêl rhag cyrraedd Kanu ond fe’i gwyrodd hi i gefn i’w rwyd ei hun.

Mae Cymru felly wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf mewn twrnament am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958, ond mi fydd yna amheuaeth am ffitrwydd y capten Ashley Williams cyn y gêm honno wedi iddo anafu ei fraich ar ôl gwrthdrawiad gyda Jonny Williams.

Dyw Cymru heb golli yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Gwlad Belg, na chwaith yn eu dwy gêm ddiwethaf yn erbyn Hwngari, felly er bod Gwlad Belg yn 2il ar restr detholion FIFA a bod Hwngari yn 20fed, mi fydd tîm Chris Coleman yn hyderus o allu cystadlu am le yn y rownd gyn derfynol pwy bynnag fydd eu gwrthwynebwyr.

Ar ôl canlyniadau dydd Sadwrn, mae hi’n sicr y bydd unai Cymru, Gwlad Belg, Hwngari, Gwlad Pwyl neu Portiwgal yn cyrraedd rownd derfynol Euro 2016.