Cymru 3-1 Gwlad Belg

International Football – UEFA Euro 2016 France – Quarter-Final – Wales v Belgium
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Gwener, 1 Jul 2016, 23:27

Arwyr Chris Coleman yn creu hanes wrth i Gymru gamu i rownd gynderfynol Ewro 2016.

Llwyddodd Cymru i guro Gwlad Belg – sy’n ail yn rhestr detholion FIFA – o dair gôl i un yn Lille nos Wener. Mae tîm Chris Coleman erbyn hyn wedi llwyddo i fynd tu hwnt i gampau carfan Cwpan y Byd 1958 Cymru – gan hawlio eu lle fel un o’r pedwar tîm olaf ym mhencampwriaeth Euro 2016.

Mi fydd Cymru y nawr yn wynebu Portiwgal yn rownd cyn-derfynol Euro 2016 yn Lyon, nos Fercher 6 o Orffennaf.

Dechreuodd Gwlad Belg y gêm yn addawol gan reoli meddiant yn hanner Cymru, ac ar ôl 12 munud fe aeth ar y blaen drwy ergyd daranllyd Radja Nainggolan o 30 llath i gornel uchaf y gôl.

Ar ôl hanner awr o chwarae unionodd Ashley Williams, peniad o gic gornel Aaron Ramsey yn curo golwr Gwlad Belg, Courtois.

Drwy gydol y gêm roedd amddiffyn Cymru yn gadarn, gyda James Chester eto yn serennu wrth rwystro Romelu Lukaku ar sawl achlysur.

Wrth i’r hanner cyntaf ddatblygu roedd yn amlwg fod hyder Cymru yn tyfu, gyda Allen, Ramsey, Robson-Kanu a Bale yn achosi trafferthion i’r Diawled Coch. Cafodd Robson-Kanu ergyd ond i Courtois arbed, a llwyddodd Ashley Williams eto i benio un o giciau cornel Ramsey tuag at y gôl – ond i’r ymdrech hedfan dros y traws.

Cyn yr awr sgoriodd Hal Robson-Kanu gôl wych i roi Cymru ar y blaen; Ramsey yn bwydo’r blaenwr, Robson-Kanu yn cyflawni’r Cruyff turn i dwyllo tri amddiffynnwr cyn rhwydo.

Sgoriodd Cymru eto ar ôl 85 munud, Chris Gunter gyda’r croesiad i’r cwrt cosbi â Sam Vokes yn penio heibio’r golwr – gôl gyntaf yr ymosodwr i Gymru ers rhwydo yn erbyn Gwlad yr Ia yn 2014.

Noson hanesyddol i bêl-droed Cymru, gyda Aaron Ramsey eto yn serennu – Ramsey sydd erbyn hyn ar frig rhestr creuwyr y gystadleuaeth gan greu 4 gôl.

Yn anffodus i Gymru mi fydd Ben Davies a Aaron Ramsey yn methu’r rownd gynderfynol ar ôl derbyn cerdyn melyn.

Mi fydd Cymru y nawr yn wynebu Portiwgal nos Fercher nesaf (7 Gorffennaf) yn Lyon ar gyfer rownd gynderfynol Euro 2016.