Cymru v Gwlad Belg – yn fyw ar S4C

Cymru v Belg
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Gwener, 1 Jul 2016, 06:18

Nos Wener, mi fydd Cymru yn wynebu Gwlad Belg yn rownd wyth olaf Euro 2016 a bydd yr enillwyr yn mynd ymlaen i herio Portiwgal yn y rownd gyn derfynol.

Hon yw’r gêm fwyaf i dîm cenedlaethol Cymru ers cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd 1958.

Ond mi fydd y pwysau i gyd ar Wlad Belg gan eu bod yn 2il i’r Ariannin ar restr timau cenedlaethol gorau’r byd gan FIFA.

Mae Cymru a Gwlad Belg wedi cwrdd 12 gwaith yn y gorffennol gyda record Belg fymryn yn well na Chymru – Cymru ennill 4, Belg ennill 5, cyfartal 3.

Ond cefnogwyr Cymru oedd yn dathlu y tro diwethaf i’r timau gwrdd, ac hynny yng Nghaerdydd ychydig dros flwyddyn yn ôl yn gemau rhagbrofol Euro 2016, pan rwydodd Gareth Bale unig gôl y gêm wrth daro ergyd drwy goesau Thibaut Courtois ar ôl camgymeriad erchyll gan Radja Nainggolan.

Y gôl honno yn erbyn Gwlad Belg yw’r unig un o 22 gôl Gareth Bale i Gymru iddo ei sgorio gyda’i droed dde!

Gwlad Belg (8) a Cymru (7) yw’r ddau dîm sydd wedi sgorio’r nifer fwyaf o goliau cyn dechrau rownd yr wyth olaf yn Euro 2016.

Dyw tîm Marc Wilmots heb ildio yn eu tair gêm ddiwethaf, gan sgorio wyth gôl ers colli 2-0 yn erbyn Yr Eidal yn eu gêm agoriadol.

Gwlad Belg (84) sydd wedi cael y nifer fwyaf o ergydion cyn dechrau rownd yr wyth olaf – 40 ergyd yn fwy na Cymru (44).

Er cael 84 ergyd, dyw Gwlad Belg dim ond wedi taro’r targed gyda 31 o rheiny (40% ar y targed)… tra bod 22 o 44 ergyd Cymru wedi taro’r targed (50% ar y targed).

Does na r’un chwaraewr wedi taro’r targed yn amlach na Gareth Bale (12) yn Euro 2016 cyn dechrau rownd yr wyth olaf.

Mae gan garfan Gwlad Belg gyfoeth o chwaraewyr talentog a chreadigol sy’n cynnwys Eden Hazard, Kevin De Bruyne a Romelu Lukaku.

Bydd capten Belg ac asgellwr Chelsea, Eden Hazard yn edrych ymlaen i ddychwelyd i Stade Pierre-Mauroy, lle dechreuodd ei yrfa yn chwarae i Lille – 194 ymdd, 50 gôl i Lille rhwng 2007-12.

Mae Hazard ar frig rhestr creuwyr Euro 2016 (3) ac mae wedi sgorio unwaith gyda gôl unigol wych yn erbyn Hwngari.

Mae seren Man City, Kevin De Bruyne wedi cael twrnament da hyd yma, ac wedi creu mwy o gyfleon clir (5) nac unrhyw chwaraewr arall cyn dechrau rownd yr wyth olaf.

Ond dyw tîm Chris Coleman heb golli yn eu tair gêm ddiwethaf yn erbyn Gwlad Belg, ac mewn cystadleuaeth sydd eisoes wedi profi bod gwyrthiau yn gallu digwydd, tybed os bydd Gareth Bale a’i griw yn cyflawni gwyrth arall nos Wener.

Cymru v Gwlad Belg yn FYW ar S4C nos Wener, 1 Gorffennaf am 7:30.