Cymru’n paratoi ar gyfer gêm fawr yn erbyn Awstria

Ben Davies
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 4 Oct 2016, 16:06

Gyda’r tîm yn teithio i Fienna fory, cynhaliwyd cynhadledd i’r wasg yng Nghwesty’r Fro yng Nghaerdydd

Mae llawer yn rhagweld y gêm yn erbyn Awstria nos Iau fel un o gemau anoddaf Grŵp D.

Mae yna newid hwyr i’r garfan wrth i Tom Bradshaw gymryd lle Simon Church oherwydd anaf i’w glun.

Effeithiwyd carfan Awstria hefyd gan anafiadau, gyda’r asgellwr Martin Harnik yn methu’r gemau yn erbyn Cymru a Serbia gydag anaf i’w goes.

Gobaith Chris Coleman a’i garfan bydd ail-adrodd perfformiad eu gêm ddiwethaf pan enillodd Cymru eu gêm agoriadol yng Nghrŵp D wrth guro Moldofa 4-0 dechrau mis diwethaf.

Bydd uchafbwyntiau’r gemau nesaf yn erbyn Awstria (06/10) a Georgia (09/10) i’w gweld ar S4C – y rhaglenni i’w gweld am 10.30 nos Iau a nos Sul, yng nghwmni Dylan Ebenezer.