Coleman yn cyhoeddi carfan Cymru cyn herio Awstria a Georgia

thumbnail_S4C – Cymru v Moldofa – 5.9.16
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 29 Sep 2016, 10:13

Does dim newidiadau mawr i garfan ddiweddaraf Cymru gydag Aaron Ramsey yn dal ddim yn holliach ar gyfer y gemau yn erbyn Awstria (06/10) a Georgia (09/10) yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018.

Bydd Jonny Williams yn absennol hefyd ar gyfer y ddwy gêm gyda’r gyntaf yn Fienna ar nos Iau 6 Hydref cyn i Gymru groesawu Georgia i Stadiwm Dinas Caerdydd ar ddydd Sul 9 Hydref.

Gobaith Chris Coleman bydd ail-adrodd campau eu gêm ddiwethaf pan enillodd Cymru eu gêm agoriadol yn Grŵp D wrth drechu Moldofa 4-0 ar nos Lun 5 Medi.

Mi fydd uchafbwyntiau’r gemau nesaf yn erbyn erbyn Awstria (06/10) a Georgia (09/10) i’w gweld ar S4C yn dilyn y ddwy gêm.

Carfan Cymru:
Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl – ar fenthyg gyda Huddersfield), Owain Fôn Williams (Inverness Caledonian Thistle), Ben Davies (Tottenham Hotspur), James Chester (Aston Villa), James Collins (West Ham United), Chris Gunter (Reading), Jazz Richards (Caerdydd), Neil Taylor (Abertawe), Paul Dummett (Newcastle United), Ashley Williams (Everton), Joe Allen (Stoke City), Dave Edwards (Wolverhampton Wanderers), Andy King (Caerlŷr), Joe Ledley (Crystal Palace), Emyr Huws (Caerdydd), Tom Lawrence (Caerlŷr) Shaun McDonald (Wigan Athletic), Gareth Bale (Real Madrid), Simon Church (MK Dons), David Cotterill (Birmingham City), Hal Robson-Kanu (West Brom), Sam Vokes (Burnley).