Cymru 1-1 Georgia

Football – 2018 FIFA World Cup Russia – Qualifying Group D – Wales v Georgia
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Sul, 9 Oct 2016, 17:04

Peniodd Gareth Bale Cymru ar y blaen wedi 10 munud o chwarae ond i Okriashvili unioni’r sgôr ar ôl 57 munud wrth i Gymru a Georgia rannu’r pwyntiau.

Er fod Cymru wedi rheoli’r gêm drwy’r hanner cyntaf, Georgia cafodd y cyfloen gorau i gipio’r fuddugoliaeth yn yr ail hanner. Valeri Kazaishvili yn taro’r trawst a’r cyfle euraidd cafodd Levan Mchedlidze wrth iddo wynebu Wayne Hennessey, golwr Cymru mewn sefyllfa 1-i-1, ond iddo ergydio heibio’r postyn.

Er fod Cymru heb golli yn eu tair gêm agoriadol, mi fydd Chris Coleman yn siomedig wrth wybod fod ei dîm wedi colli’r cyfle i guro gwlad sydd 127 o lefydd yn is na Cymru ar restr detholion FIFA – a parhau ar frig Grŵp D.

Gyda Serbia yn curo Awstria o 3-2 a’r Weriniaeth Iwerddon yn curo Moldofa o 1-3 mae Cymru y nawr wedi llithro i’r trydydd safle yn Grŵp D.

Gwrthwynebwyr nesaf Cymru yng Ngrŵp D yw Serbia, gyda Cymru yn croesawu tîm Slavoljub Muslin i Gaerdydd ar y 12fed o Dachwedd.

Sgoriodd Gareth Bale yn fuan yn y hanner cyntaf gan benio cic gornel Joe Ledley heibio Loria, golwr Georgia.

Mae Bale bellach wedi rhwydo 25 gôl dros ei wlad ac angen 4 gôl i dorri record Ian Rush (28).

Roedd egni a cyflymder Bale yn achosi problemau i amddiffyn Georgia drwy’r hanner cyntaf. Creuodd gyfle allan o nunlle gan garlamu i fyny’r asgell chwith ac ennill cic-gornel i Gymru, gyda Ledley eto yn darganfod Bale, ond ei beniad y tro hwn yn hedfan dros y trawst.

Roedd rhaid galw ar Hennessey, golwr Cymru i gadw Cymru ar y blaen yn mynd i fewn i’r egwyl wrth iddo arbed cic-rydd Ananidze, ac roedd rhaid galw ar y golwr ar sawl achlysur drwy gydol yr ail hanner i gadw Cymru yn y gêm.

Llwyddodd Hennessey i wyro siot Ananidze heibio’r postyn i gadw’r sgôr yn gyfartal gyda Georgia yn mwynhau mwy o’r meddiant ar cyfleon gorau drwy gydol yr ail hanner.

Sgoriodd Okriashvili i Georgia wedi awr o chwarae, y chwaraewr canol cae Krasnodar yn unioni’r sgôr gan guro’r trap camsefyll ac yn penio croesiad Valeri Kazaishvili.

Cafodd Bale sawl cyfle i sgorio o giciau rhydd, ond ei ergydion yn hedfan heibio’r nôd ar sawl achlysur – at rwystredigaeth y dorf.

Roedd Cymru yn gweld eisiau dawn Aaron Ramsey a Joe Allen yn ganol cae ac mi fydd Chris Coleman – a’r cefnogwyr – yn gobeithio fod y ddau yn holliach ar gyfer croesawu Serbia i Stadiwm Dinas Caerdydd yn Tachwedd.