Ein gwrthwynebwyr: Portiwgal

Football – UEFA Super Cup – Real Madrid CF v Sevilla FC
Sgorio

Sgorio

Dydd Llun, 4 Jul 2016, 15:30

Er nad yw Chris Coleman a Chymru am weld y gêm yn erbyn Portiwgal yn cael ei ddisgrifio fel Bale v Ronaldo, mae’n rhyfeddol meddwl fod mwy o hanes rhwng y ddau chwaraewr Real Madrid na sydd rhwng Cymru a Phortiwgal!

Dim ond tair gwaith erioed mae Cymru wedi wynebu A Seleção gyda dwy o’r gemau yn dod dros 60 mlynedd yn ôl.

Trefnwyd gêm yn erbyn Portiwgal fel rhan o daith cyntaf Cymru i’r cyfandir ym 1949 – yr un daith a welwyd y gêm gyntaf yn erbyn Gwlad Belg.

Heb law am ddwy gêm yn erbyn Ffrainc ym 1933 a 1939, dyma oedd y tro cyntaf i Gymru wynebu tîm o du allan i Ynysoedd Prydain ac yn ôl Red Dragons, The story of Welsh Football, llyfr arbennig Phil Stead ar hanes y tîm cenedlaethol, roedd chwaraewyr Cymru wedi eu synnu gan dactegau brwnt Portiwgal.

Dywedai Trevor Ford, ymosodwr Cymru, fod y gwrthwynebwyr yn gwneud dim byd ond baglu, dyrnu a thynnu crysau’r Cymry.

Pan gafodd chwaraewr canol cae Cymru a Chaerlŷr, Mal Griffiths ei lorio gan dacl fyddai un o reng flaen Pontypŵl wedi bod yn falch ohonni, fe brotestiodd trwy bigo’r bêl i fyny a phlymio dros y llinell gôl am “gais”!

Colli 2-3 oedd hanes Cymru gyda Ford yn rhwydo’r ddwy gôl, ond llwyddodd Ford a Griffiths i rwydo gôl yr un wrth i Gymru drechu Portiwgal 2-1 ar Barc Ninian ym 1951.

Am ryw reswm bu rhaid disgwyl 49 mlynedd am gêm arall rhwng y ddwy wlad.

Roedd Portiwgal wedi dod allan o’r het i wynebu Lloegr yn Euro 2000 yn Yr Iseldiroedd a Gwlad Belg ac o’r herwydd cafodd Mark Hughes wahoddiad i fynd â’i dîm i wynebu Luis Figo, João Pinto, Rui Costa a’u cyfeillion mewn gêm gyfeillgar yn Chaves.

Gwnaeth Darren Ward, oedd yn chwarae i Notts County yn Nhrydedd Adran Lloegr, ei ymddangosiad cyntaf yn y gôl i Gymru gyda Rhys Weston, oedd gydag Arsenal ar y pryd, hefyd yn ennill y cyntaf o’i saith o gapiau.

Chwalwyd tîm dibrofiad Cymru 3-0 diolch i goliau gan Figo, Ricardo Sá Pinto a Capucho a llwyddodd Portiwgal i gamu ymlaen i rownd gynderfynol Euro 2000 … cyn colli!

Ymunwch â Dylan Ebenezer ac Owain Tudur Jones ar gyfer gêm FYW Cymru v Gwlad Belg nos Fercher am 7.30 ar S4C