Francesco Guidolin yw prif hyfforddwr yr Elyrch

Football – FA Premier League – Everton FC v Swansea City FC
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 28 Jan 2016, 11:05

Wedi diswyddiad Gary Monk ym mis Rhagfyr, mi fydd yr Eidalwr a chyn-reolwr Parma, Palmero a Udinese yn gweithio ochr yn ochr â rheolwr dros dro Abertawe, Alan Curtis tan ddiwedd y tymor.

Er bod Guidolin yn ddiarth i gefnogwyr pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr, mae ganddo brofiad helaeth o bêl-droed y cyfandir ac Ewropeaidd, gan reoli yn Seria A, Liga 1 a Cynghrair y Pencampwyr.

Mi fydd dilynwyr Sgorio o’r 90au yn cofio Guidolin fel rheolwr Vicenza rhwng 1994 a 98 – gan guro’r Coppa Italia yn 1997 a chyrraedd rownd gyn derfynol Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop yn 1998.

Yn fwy diweddar roedd Guidolin yn reolwr ar Udinese, gan arwain y tîm i Gynghrair y Pencampwyr yn 2011 – ac fe gafodd ei glodfori am y gamp gan ennill yr Albo Panchina d’Oro – rheolwr y tymor Serie A – yn 2011-12.