Gemau tymor 2016/17 Uwch Gynghrair Lloegr wedi’u cyhoeddi

160124-060-Everton_Swansea-640×360
Sgorio

Sgorio

Dydd Mercher, 15 Jun 2016, 11:44

Mae Abertawe a gweddill timau Uwch Gynghrair Lloegr yn gwybod beth yw trefn eu gemau cynghrair y tymor nesaf.

Bydd yr Elyrch yn dechrau’r tymor gyda gemau yn erbyn timau ennillodd ddyrchafiad o’r Bencampwriaeth. Ar benwythnos agoriadol y tymor, bydd Francesco Guidolin yn dechrau ei dymor llawn cyntaf wrth y llyw gyda thaith i herio Burnley yn Turf Moore ar Awst 13, cyn croesawu Hull i stadiwm Liberty yn eu gêm gartref gyntaf wythnos yn ddiweddarach.

Dros gyfnod y Nadolig, bydd Abertawe yn croesawu West Ham a Bournemouth i’r Liberty cyn teithio i Lundain i wynebu Crystal Palace ar Ionawr 2il.

Gorffennodd Abertawe yn y 12fed safle’r tymor diwethaf, gyda Chaerlŷr yn ennill y gynghrair ar ôl tymor anrhagweladwy. Bydd yr Elyrch yn ymweld â Chaerlŷr ar Awst 27 gan groesawu Claudio Ranieri a’i dîm i dde Cymru ar Chwefror 11.

Byddan nhw’n gorffen y tymor gyda gêm gartref yn erbyn West Brom ar Fai 21.