Y cyn-ymosodwraig rhyngwladol yn ymuno â Sgorio fel gohebydd.
Bydd Gwennan Harries yn ymuno â thîm Sgorio fel gohebydd am weddill y tymor, gan ddechrau gyda’r gêm rhwng Aberystwyth a’r Drenewydd dydd Sadwrn nesaf (16/1).
Cafodd Gwennan ei chapio 56 gwaith gan sgorio 18 gôl I Gymru.
Bu Gwennan hefyd yn chwarae i dîm marched Caerdydd, Bryste â Everton.
Ar ôl cyfnod o dros 3 mlynedd allan gydag anaf, bu rhaid i Gwennan ymddeol yn 2015.
Mi fydd Gwennan yn camu fewn i esgidiau Nicky John wrth i Nicky ddechrau cyfnod mamolaeth.