Ledley yng ngharfan Cymru ar gyfer Ffrainc

International Football – Pre-Euro Wales Training Camp
Sgorio

Sgorio

Dydd Mawrth, 31 May 2016, 14:06

Mae Joe Ledley wedi ei enwi yng ngharfan 23-dyn Cymru ar gyfer Pencampwriaethau UEFA Euro 2016 ond does dim lle i Emyr Huws.

Roedd Ledley wedi torri ei goes mewn gêm Uwch Gynghrair Lloegr i Crystal Palace yn erbyn Stoke ar ddechrau fis Mai, ond mae o wedi gwella’n aruthrol a phrofodd ei ffitrwydd yn ystod camp ymarfer Cymru yn Vale do Lobo, Portiwgal.

“Mae Joe Ledley yn edrych yn dda iawn, iawn,” meddai rheolwr Cymru, Chris Coleman. “Cafodd sesiynau gwerthfawr iawn ar y gwair gyda’r tîm meddygol ym Mhortiwgal.”

“Mae o’n arbennig o benderfynol ar y funud. Chwaraeodd ran fawr yn yr ymgyrch ragbrofol ac mae’n rhan enfawr o’r garfan.”

“Mae gennym ni’r wythnos yma ac wythnos nesaf i weld os fydd o ar gael ar gyfer Slofacia (ar 11 Mehefin),” ychwanegodd Coleman.

Gyda’r ymosodwyr Tom Bradshaw a Tom Lawrence, a’r amddiffynwr, Adam Henley, eisoes wedi anafu, roedd dewis ei garfan o 23 ychydig yn haws i Coleman, y rheolwr cyntaf i arwain Cymru i un o brif bencampwriaethau pêl-droed y byd ers Jimmy Murphy ym 1958.

Ond cyfaddefodd fod dweud wrth y chwaraewyr nad oedd yn cael lle yn ei garfan y peth anoddaf mae o wedi gorfod ei wneud.

“Roedd hi’n anodd. Doedd y sgyrsiau ddim yn sgyrsiau roeddwn i’n edrych ymlaen at eu cael,” meddai. “Roedd yr ymatebion yn wahanol iawn, ond mae’n bencampwriaeth anferth ac mae pawb eisiau bod yn ran ohonni.”

“Gallwn ni ond mynd a hyn o hyn o chwaraewyr ac roedd ’na sgyrsiau anodd iawn.”

Roedd nifer wedi darogan y byddai chwaraewr canol cae Wigan, Emyr Huws, yn rhan o’r garfan ond cadarnhaodd Coleman ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd i’w adael allan.

“Mae Emyr yn ifanc, mae ganddo ychydig o brofiad ond mae o mewn cwmni da yng nghanol cae, chwaraewyr sydd wedi gwneud yn dda iawn i ni. Chwaraeodd Dave Edwards yn arbennig yn Israel a Chyprus ac mae’n gallu chwarae mewn sawl safle os ’da ni angen newid ein siâp.”

Bydd Cymru yn wynebu Sweden yn y Friends Arena, Stockholm yn eu gêm baratoadol olaf cyn hedfan i’w canolfan ymarfer ar gyfer Euro 2016 yn Dinard, Llydaw.


Carfan Cymru ar gyfer Uefa Euro 2016:

Golwyr: Wayne Hennessey (Crystal Palace), Danny Ward (Lerpwl), Owain Fôn Williams (Inverness).

Amddiffynwyr: Ben Davies (Tottenham Hotspur), Neil Taylor (Abertawe), Chris Gunter (Reading), Ashley Williams (Abertawe), James Chester (West Brom), Ashley Richards (Fulham), James Collins (West Ham).

Canol Cae: Aaron Ramsey (Arsenal), Joe Ledley (Crystal Palace), David Vaughan (Nottingham Forest), Joe Allen (Lerpwl), David Cotterill (Birmingham City), Jonathan Williams (Crystal Palace), George Williams (Fulham), Andy King (Caerlŷr), Dave Edwards (Wolves).

Ymosodwyr: Gareth Bale (Real Madrid), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Simon Church (MK Dons).