Llandudno v Bangor

Llandudno v Bangor
Sion Richards

Sion Richards

Dydd Mercher, 28 Dec 2016, 12:33

Ymunwch â Dylan Ebenezer, Nicky John ac Owain Tudur Jones am gracyr Dydd Calan ar Barc Maesdu wrth i Landudno groesawu Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru Dafabet, darllediad am 5 gyda’r gic gyntaf am 5:15.

Mae Alan Morgan wedi hen sefydlu ei hun wrth y llyw yng nghysgod Pen y Gogarth gyda charfan sefydlog, ond cwta fis sydd wedi bod ers i reolwr ifanc newydd Bangor Ian Dawes gymryd yr awenau. Hen ben neu waed newydd fydd yn llwyddiannus yn Llandudno tybed?

Union flwyddyn yn ôl, du a gwynion Llandudno oedd yn dathlu gyda gleision Bangor yn dioddef cur pen wrth i fechgyn Alan Morgan ennill o dair gôl i ddim ym Mangor.

Llandudno v Bangor, dydd Calan am 5, gyda’r gic gyntaf am 5:15.