Lloegr 2-1 Cymru

International Football – UEFA Euro 2016 France – England v Wales
Rhys Llwyd

Rhys Llwyd

Dydd Iau, 16 Meh 2016, 15:55

Er i Gareth Bale roi Cymru ar y blaen gyda chic rydd yn yr hanner cyntaf, fe sgoriodd Lloegr ddwywaith wedi’r egwyl i godi’r Saeson i frig Grŵp B gan adael Cymru yn yr 2il safle gydag un rownd o gemau ar ôl i’w chwarae yn y grŵp.

Dylai pwynt yn erbyn Rwsia nos Lun fod yn ddigon i sicrhau lle Cymru yn y rowndiau nesaf ond byddai buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn yr 16 olaf.

Cafodd Raheem Sterling gyfle gwych i roi Lloegr ar y blaen yn fuan yn y gêm yn Lens, ond fe gododd ei ergyd dros y trawst ar ôl croesiad gywir gan Adam Lallana.

Ond Cymru aeth ar y blaen wrth i Gareth Bale fentro o bellter gyda chic rydd a dwyllodd Joe Hart rhwng y pyst i’r Saeson.

Fe wnaeth Roy Hodgson ddau newid ar yr egwyl wrth dynnu Harry Kane a Raheem Sterling oddi ar y maes gyda Jamie Vardy a Daniel Sturridge yn dod ymlaen yn eu lle.

A’r ddau eilydd sgoriodd y goliau holl-bwysig i’r Saeson, Vardy gyda’r gyntaf wrth fod yn y lle iawn ar yr amser iawn wedi peniad gwallus gan Ashley Williams yn dilyn croesiad Sturridge.

Roedd Cymru’n sefyll eu tir yn arwrol yn amddiffyn ton ar ôl ton o ymosodiadau gan Lloegr ond roedd y pwysau’n ormod yn y pen draw, ac wedi 91 munud o chwarae fe dorrwyd calonau’r Cymry wrth i Sturridge lithro drwy’r amddiffyn i brocio ergyd gynnil heibio i Wayne Hennessey.

Er y canlyniad siomedig mae Cymru mewn safle cryf i gamu ymlaen i’r rownd nesaf, ond bydd angen canlyniad yn erbyn Rwsia yn Nhoulouse nos Lun i sicrhau hynny.