Mills yn gadael Wrecsam

mills480
Sgorio

Sgorio

Dydd Iau, 13 Oct 2016, 14:38

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi cyhoeddi fod y rheolwr, Gary Mills, wedi gadael y clwb.

“Roedd yn benderfyniad anodd ond er gwaethaf pêl-droed cyffrous ac adloniadol tymor diwethaf, ein prif nod yw sicrhau dyrchafiad yn ôl i’r Gynghrair Bêl-droed ac nid ydym wedi gwneud unrhyw symudiad tuag at y nod hwnnw,” meddai datganiad ar safle we’r clwb.

“Rydym wedi colli cysylltiad gyda’r timau sydd tua’r brig gyda threuan o’r tymor eisoes wedi ei chwarae. O’r herwydd rydym wedi gwneud y penderfyniad anodd fod angen newid.”

Bydd y Dreigiau yn teithio i herio Stamford ym mhedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan FA Lloegr a bydd Joey Jones ac Andy Davies yng ngofal y tîm gyda’r cyn chwaraewr, Dean Keates, yn eu cynorthwyo.